Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Erlyn tri pherchennog eiddo am dorri rheolau cynllunio
Published: 18/02/2026
Mae tri pherchennog eiddo yn gorfod talu miloedd o iawndal, dirwyon a chostau’r llys yn Sir y Fflint ar ôl cael eu herlyn am dorri rheolau cynllunio.
Mae’r erlyniadau llwyddiannus yn dilyn cyfnod hir o fethu â chydymffurfio yn y tri safle, er gwaetha cyfleoedd niferus i’r rhai oedd yn gyfrifol i ddatrys y materion eu hunain.
Tynnwyd sylw’r Cyngor at y tri achos yn wreiddiol gan gwynion gan aelodau’r cyhoedd.
Fel gyda phob achos o dorri rheolau cynllunio, ceisiodd y Cyngor ddatrys y materion yn anffurfiol drwy drafod â’r perchnogion tir i gywiro’r tor-amodau, neu drwy gyflwyno ceisiadau cynllunio pan fo’n briodol.
Pan oedd y materion yn parhau, cyflwynwyd rhybuddion gorfodi ffurfiol, yn nodi’r camau oedd angen eu cymryd mewn cyfnod penodol - ond er hynny, ni wnaed unrhyw ymgais i gywiro’r tor-amodau.
Yn y pen draw, nid oedd gan y Cyngor ddewis ond erlyn er mwyn gwarchod amwynderau lleol a chynnal hyder yn y system gynllunio.
Yn yr achos cyntaf, gwelwyd bod eiddo preswyl yn Sandycroft yn cael ei ddefnyddio fel eiddo masnachol er na chafwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y newid hwn. Roedd gofyn i’r perchennog roi’r gorau i’r defnydd heb awdurdod, cael gwared ar beiriannau ac adfer y tir i’w gyflwr blaenorol.
Ar ôl methu â chydymffurfio, gorchmynnwyd y perchennog tir yn y llys i dalu iawndal o £70,000, costau erlyniad o £30,859.84, dirwy o £6,000 i’r Cyngor a gordal dioddefwr o £2,000.
Yn yr ail achos, adeiladwyd estyniad deulawr mewn cartref yn Ffynnongroyw er mai ond am estyniad unllawr y cafwyd caniatâd. Roedd gofyn i’r perchennog ddymchwel yr estyniad neu gael gwared ar y llawr cyntaf, ond ni wnaeth gydymffurfio.
Gosododd y llys ddirwy o £2,000 a chostau o £5,000 yn daladwy i’r Cyngor, ynghyd â gordal dioddefwr o £800.
Roedd yr achos olaf yn ymwneud â darn o dir blêr yn Nhreffynnon. Roedd y perchennog wedi cael cyfarwyddyd i’w glirio drwy gael gwared ar ffensys, sgaffaldiau a rwbel a thorri llystyfiant oedd wedi gordyfu o erddi.
Ar ôl anwybyddu’r rhybudd, gorchmynnwyd y perchennog tir gan y llys i dalu dirwy o £1,000 i’r Cyngor a £3,810.97 o gostau, yn ogystal â gordal dioddefwr o £400.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones, Aelod Cabinet Trawsnewid, Twf a Lle: “Mae rheolau cynllunio’n bodoli i warchod ein cymunedau a sicrhau bod datblygiadau’n deg a phriodol.
“Pan ddynodir bod rheolau wedi’u torri, rydym yn rhoi pob cyfle i berchnogion tir eu datrys yn anffurfiol, ond pan na fydd hynny’n digwydd, byddwn yn cymryd camau gorfodi.
“Rydw i’n falch o ganlyniadau’r tri achos hwn ac yn gobeithio y byddant yn atal unrhyw un arall sy’n ystyried gwneud gwaith datblygu heb y caniatâd cywir neu heb gael cyngor proffesiynol. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn sicrhau preswylwyr y byddwn yn cymryd pryderon o ddifri ac yn gweithredu arnynt.”