Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Isadeiledd gwyrdd newydd yn dod â bywyd newydd i Ganolfan Siopa Bwcle

Published: 20/02/2026

Bydd Canolfan Siopa Bwcle yn dod yn fwy gwyrdd, yn fwy croesawgar ac yn fwy lliwgar gyda hyn, diolch i gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a gweledigaeth grwp cymunedol lleol, Cwmni Buddiannau Cymunedol Shelby’s Place.

Mae’r cyllid sydd wedi’i sicrhau gan dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint, fel rhan o’i raglen fuddsoddi mewn canol trefi – Sir y Fflint, wedi arwain at brynu 10 o dybiau blodau mawr o ansawdd uchel gan gwmni lleol R & G Landscaping, gan gefnogi sgiliau lleol a’r economi rhanbarthol.

Mae’r tybiau wedi’u llenwi ag amrywiaeth o blanhigion, hadau a bylbiau o Ganolfan Arddio Daleside ym Mhenarlâg, gan gryfhau cadwyni cyflenwi lleol ymhellach a sicrhau diddordeb tymhorol drwy gydol y flwyddyn.

Yn ogystal â gwella edrychiad y ganolfan siopa, mae’r prosiect yn rhoi pwyslais cryf ar ymgysylltu â'r gymuned a chynaliadwyedd hirdymor.

Cafodd y tybiau blodau eu llenwi ddydd Iau 12 Chwefror a byddant yn cael eu cynnal gan Shelby’s Place, busnes lleol yng Nghanolfan Siopa Bwcle ynghyd â chymorth gan grwp brwdfrydig o wirfoddolwyr sy’n barod iawn i lanhau a gwyrddu canol tref Bwcle.

Mae’r fenter ar y cyd hon yn dangos sut mae buddsoddiad wedi’i dargedu drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gallu cyflawni gwelliannau amgylcheddol, cefnogi busnesau lleol a dod â chymunedau at ei gilydd, oll gan greu canol tref gwyrddach a harddach ar gyfer preswylwyr, siopwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Meddai Sharon Beck: “Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gofod diogel a chyfeillgar i’r gymuned lle mae pawb yn gallu cael mynediad at gefnogaeth.

"Rydym ni’n darparu grwpiau a gweithgareddau cynaliadwy, ac yn hyrwyddo balchder yn ein cymuned lle mae pawb yn gallu cymryd rhan, mae ‘na swydd i bawb.”

Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol Shelby’s Place yn ganolbwynt cymunedol ac yn fenter gymdeithasol. Mae’n helpu i ymgysylltu â’r gymuned ym Mwcle, drwy hyrwyddo talentau lleol, cynnig lle croesawgar i breswylwyr ac ymwelwyr a chyfrannu at weithgareddau a mentrau cymunedol. Mae eu grwp gwirfoddoli yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir ymgysylltu â gweithgareddau garddio gwobrwyol, gan gefnogi lles, cysylltiadau cymdeithasol a balchder bro. Os hoffech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod ymuno â’r grwp yma, cysylltwch â Sharon Beck o Shaz’s Shabby Chic/Shelby’s Place ar 01244 267499.