Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwelliannau mynediad mwy diogel i ddechrau ym Mhenyffordd
Published: 23/02/2026
Bydd gwaith gwella cludiant yn dechrau wythnos yma yng Nghylchfan Penyffordd, yn ôl cyhoeddiad gan Gyngor Sir y Fflint.
Bydd y cynllun yn cynnwys lledu llwybrau troed presennol, gosod croesfan twcan newydd ar yr A550, a chyflwyno terfyn cyflymder is o 40mya yng nghyffiniau'r gylchfan.
Gyda'i gilydd, bwriad y mesurau hyn yw creu llwybrau mwy diogel a hygyrch i gerddwyr sy'n teithio i orsaf reilffordd Penyffordd ac oddi yno, tra hefyd yn gwella cysylltedd y tu hwnt i'r orsaf i ardaloedd preswyl cyfagos, cyfleusterau lleol a gwasanaethau cludiant cyhoeddus.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei rheoli gan Trafnidiaeth Cymru.
Mae'r gwaith wedi'i drefnu i ddechrau ddydd Mawrth 24 Chwefror a disgwylir iddo bara tua chwe wythnos. Yn ystod yr wythnos gyntaf, bydd gweithgareddau'n cael eu cynnal oddi ar y briffordd ac ni fydd angen rheoli traffig. Fodd bynnag, yn dilyn hyn, bydd angen mesurau rheoli traffig i sicrhau diogelwch y cyhoedd a'r gweithlu.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Mae'r prosiect yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddarparu opsiynau teithio mwy diogel a chynaliadwy, gan hyrwyddo cerdded a beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus o fewn cymunedau lleol.
“Diolchir i drigolion ymlaen llaw am eu hamynedd a’u cydweithrediad tra bod y gwelliannau pwysig hyn yn cael eu gwneud.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag active.travel@flintshire.gov.uk