Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gallai toiledau cyhoeddus aros ar agor o dan gynlluniau Trosglwyddo Asedau Cymunedol
Published: 25/02/2026
Gallai dyfodol tri set o doiledau cyhoeddus gael ei ddiogelu ar ôl i gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno i drosglwyddo’r cyfleusterau i reolaeth leol.
Roedd y toiledau yn Nhalacre, Treffynnon a’r Wyddgrug yn wynebu cael eu cau y llynedd oherwydd toriadau yn y gyllideb, ond cafodd y cynllun ei oedi i ganiatáu i’r Cyngor ymgynghori ar atebion eraill i gynnal mynediad cyhoeddus i doiledau yn yr ardaloedd hyn.
Cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 5 Tachwedd a 2 Rhagfyr 2025 a oedd yn gofyn am safbwyntiau ar ystod o ddewisiadau, gan gynnwys ystyried Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol posib i drosglwyddo rheolaeth y cyfleusterau i sefydliadau eraill.
Yna cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y tri Chyngor Tref a Chymuned, ac mae Aelodau’r Cabinet bellach wedi cytuno i weithredu’r trosglwyddiadau.
Cyn trosglwyddo, mae’r Cyngor yn ceisio buddsoddi £240,000 i adnewyddu a moderneiddio’r toiledau, i sicrhau eu bod mewn cyflwr da cyn eu rhoi i reolwr lleol.
Bydd y gwaith yn rhan o raglen fuddsoddi ehangach o £1.5 miliwn mewn amwynderau cyhoeddus a chanol trefi ledled Sir y Fflint, a ariennir trwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU.
Meddai’r Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae’r Cyfleusterau hyn yn asedau cymunedol gwerthfawr ac rwy’n falch ein bod am weithredu Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol i ganiatáu iddynt gael eu rheoli’n lleol. Gobeithiaf y bydd hyn yn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i’r rhai sydd eu hangen ymhell i’r dyfodol.
“Rydym yn buddsoddi yn y toiledau yn gyntaf i sicrhau eu bod yn cael eu trosglwyddo mewn cyflwr da, er mwyn iddynt barhau i wasanaethu eu cymunedau am flynyddoedd i ddod gyda chostau cynnal a chadw is.”
Bydd Cyngor y Sir yn cyfarfod â'r cynghorau tref a chymuned berthnasol yn fuan i drafod dichonoldeb trosglwyddiadau.