Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith brys wedi’i gynllunio ar gyfer Chester Road, Shotton
Published: 06/03/2026
Bydd gwaith trwsio brys yn cael ei gynnal ar adran o Chester Road, Shotton, ddydd Sadwrn, 7 Mawrth, cyn i’r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd gychwyn yn ddiweddarach y mis hwn.
Bydd gweithwyr yn cynnal gwaith i dynnu’r adran o’r ffordd sydd wedi dirywio fwyaf ger maes parcio Ash Grove. Mae angen cynnal y gwaith er mwyn mynd i’r afael â’r adran o’r ffordd sydd wedi’i heffeithio waethaf cyn y rhaglen waith lawn o roi wyneb newydd ar ffyrdd.
Unwaith mae’r gwaith wedi’i gwblhau, bydd y ffordd mewn cyflwr dros dro nes iddi gael ei hadfer yn llawn fel rhan o waith y prif gynllun, sydd wedi’i drefnu i gychwyn ar 18 Mawrth. Bydd manylion llawn o’r cynllun hwn ar gael yr wythnos nesaf.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn diolch i breswylwyr a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd wrth i’r gwaith hanfodol hwn fynd rhagddo.