Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cabinet i ohirio penderfyniad ar gynnig ad-drefnu ysgolion

Published: 09/03/2026

Mae disgwyl i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried dau gynnig ar gyfer trefniadaeth ysgolion yfory (dydd Mawrth, 10 Mawrth). Mae’r ddau gynnig fel a ganlyn:

  • uno sawl ysgol Gatholig yn Sir y Fflint a chreu ysgol newydd i blant 3-18 oed
  • uno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Goffa Saltney Wood

Ddiwedd yr wythnos diwethaf, ar ôl cyhoeddi papurau'r cyfarfod, derbyniodd y Cyngor her gyfreithiol mewn perthynas â'r cynnig ar gyfer ysgolion Catholig sydd wedi codi pryderon ynghylch agweddau ar y broses ymgynghori. Gallai'r pryderon hyn hefyd gael effaith ar yr ymgynghoriad ar gyfer ysgolion Saltney.

Wrth ystyried yr her hon, aeth y Cyngor ati i geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun, ac mae wedi dod i law heddiw. Mae angen amser ychwanegol arno nawr i adolygu a mynd i'r afael â'r materion a godwyd cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y ddau gynnig.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes: “Rydym yn cydnabod bod y cynnig hwn wedi ennyn diddordeb sylweddol a safbwyntiau cryf o fewn cymunedau ein hysgolion.

“Yn dilyn yr her gyfreithiol, credwn ei bod yn bwysig cymryd yr amser angenrheidiol i ystyried yn ofalus y pryderon a godwyd ynghylch y broses ymgynghori.

“Bydd gohirio’r penderfyniad yn caniatáu i ni adolygu’r pryderon hyn yn drylwyr a sicrhau bod aelodau’r Cabinet yn cael y wybodaeth fwyaf cyflawn sydd ar gael cyn penderfynu ar y camau nesaf.”