Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymarfer y gwasanaeth tân yn helpu i brofi ymateb mewn argyfwng mewn bloc o fflatiau uchel

Published: 11/03/2026

Ymarfer hyfforddi gwasanaeth tân yn Richard Heights

Mae ymarfer hyfforddi ar raddfa fawr wedi cael ei gynnal gan y gwasanaeth tân yn un o adeiladau preswyl uchel Cyngor Sir y Fflint i brofi gweithdrefnau ymateb i argyfwng.

Cynhaliwyd yr ymarfer yn fflatiau Richard Heights yn y Fflint nos Fawrth, gyda chriwiau o Lannau Dyfrdwy, Y Fflint, Treffynnon a Llanelwy ac Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cymryd rhan.

Defnyddiwyd pedwar o gerbydau’r gwasanaeth tân o Orsaf Dân Y Fflint fel rhan o’r senario, a oedd yn efelychu tân mewn fflat ar chweched llawr yr adeilad 15 llawr.

Bu i ddiffoddwyr tân ymarfer ystod o weithdrefnau gweithredol, yn cynnwys ‘achub’ nifer o anafusion byw.

Nid oedd preswylwyr yn rhan o’r ymarfer ond rhoddwyd gwybod iddynt ymlaen llaw y byddai’n cael ei gynnal.

Rhoddodd yr ymarfer hyfforddi gyfle i’r Cyngor a’r Gwasanaeth Tân brofi ac adolygu gweithdrefnau ar gyfer mynd i’r afael ag argyfwng mewn bloc o fflatiau uchel.

Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai a Chymunedau:

“Mae ymarferion fel hyn yn hanfodol i sicrhau bod ein gwasanaethau brys yn gwbl barod i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol pe bai digwyddiad go iawn.

“Mae blociau o fflatiau uchel yn creu heriau unigryw mewn sefyllfaoedd brys ac rydw i’n gobeithio y bydd preswylwyr yn teimlo’n fodlon o wybod bod y gweithdrefnau sydd wedi’u dylunio i’w cadw’n ddiogel wedi cael eu profi’n briodol.

“Hoffem ddiolch i breswylwyr Richard Heights am eu dealltwriaeth tra’r oedd yr ymarfer yn cael ei gynnal.”

Ychwanegodd Graham Stuart, Rheolwr Ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Mae’r ymarfer hwn yn rhan o’n rhaglen ymarfer leol barhaus, sy’n galluogi diffoddwyr tân i ymarfer tactegau ymateb mewn fflatiau uchel mewn amodau realistig.

“Mae pob sesiwn yn ein helpu i fireinio ein dull, profi ein hoffer, a gweithio’n ddi-dor gyda phartneriaid fel Cyngor Sir y Fflint i sicrhau ymateb effeithiol yn ystod argyfyngau go iawn.”