Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyn landlord yn Sir y Fflint yn troi’n 104
Published: 17/03/2026
Mae preswylydd Sir y Fflint wedi dathlu’r garreg filltir anhygoel o droi’n 104 oed.
Dathlodd Marie Messham, cyn landlord adnabyddus yn ei chymuned, ei phen-blwydd arbennig fis diwethaf gyda theulu a ffrindiau. 
Ganed Mrs Messham yn y Fflint yn chweched o naw o blant, gan gynnwys ei brawd hyn, William, wnaeth fyw tan oedd yn 105 oed.
Priododd ei diweddar wr, Harold, ac ym 1957, cymerodd y ddau awenau tafarn George and Dragon, a buont yn ei rhedeg am 36 mlynedd.
Mae Mrs Messham yn dal i fyw yn y Fflint, yn ei chartref ei hun, gyda chefnogaeth gofalwyr.
Ymwelodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Mel Buckley â Mrs Messham i ddymuno pen-blwydd hapus iddi.
Dywedodd y Cynghorydd Buckley: “Mae Mrs Messham yn ddynes arbennig ac mae hi’n adnabyddus iawn yn y Fflint. Mae hi’n byw yn annibynnol ac mae hi’n hynod o graff.
“Es i ymweld â Mrs Messham ar ei phen-blwydd yn 100 a 103 oed pan oeddwn i’n Faer y Fflint – ac fe wnes i addo y byddwn i’n ôl eleni gyda Chadwyn wahanol.
“Roedd yn bleser ymweld â hi eto i’w helpu i ddathlu ei charreg filltir ddiweddaraf. Mae cyrraedd 104 oed yn gyflawniad gwych, ac ar ran y Cyngor, hoffwn ailadrodd fy llongyfarchiadau.”