Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint i ddechrau tynnu rhwystrau ar y rhwydwaith beicio yn dilyn ymgynghoriad
Published: 18/03/2026
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau ar y gwaith o dynnu nifer o rwystrau oddi ar Rwydwaith Beicio Sir y Fflint yr wythnos nesaf, yn dilyn ymarfer ymgynghori cyhoeddus diweddar a gyda chyllid gan Grant Teithio Llesol Trafnidiaeth Cymru.
Mae swyddogion y Cyngor wedi bod wrthi’n adolygu’r adborth a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, a oedd yn ceisio barn y cyhoedd am gynigion i wella hygyrchedd ar rannau o rwydwaith beicio’r sir.
Roedd mwyafrif yr ymatebion yn cefnogi argymhellion cychwynnol y Cyngor, yn enwedig y cynnig i dynnu nifer o’r rhwystrau presennol i wneud y llwybrau’n fwy hygyrch i amrediad ehangach o ddefnyddwyr.
O ganlyniad, bydd gwaith bellach yn dechrau’r wythnos hon ar dynnu nifer o’r rhwystrau a nodwyd yn yr ymgynghoriad. Nod y gwelliannau yw gwneud y rhwydwaith yn haws ei ddefnyddio i feicwyr, cerddwyr, pobl sy’n defnyddio cadair olwyn, pobl â phramiau, a defnyddwyr dulliau teithio llesol eraill.
Cynhyrchodd y broses ymgynghori adborth gwerthfawr gan drigolion a budd-ddeiliaid. Er bod mwyafrif yr ymatebion yn cefnogi’r cynigion i dynnu’r rhwystrau, roedd rhai’n cynnig lleoliadau gwahanol i argymhellion cychwynnol y Cyngor. Rydym wrthi’n adolygu’r lleoliadau hyn yn fwy manwl i wneud yn siwr bod unrhyw benderfyniadau a wnawn yn y dyfodol yn rhoi ystyriaeth gytbwys i hygyrchedd, diogelwch, a phryderon lleol.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn dal i fod wrthi’n adolygu holl adborth yr ymgynghoriad, a bydd yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf pan fydd y broses honno wedi’i chwblhau.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella llwybrau teithio llesol ar hyd a lled y Sir, gan helpu i greu isadeiledd cerdded a beicio mwy diogel, hygyrch a chynhwysol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.
Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Mae gwella hygyrchedd ar ein rhwydwaith beicio’n gam pwysig i wneud teithio llesol yn ddewis realistig i fwy o bobl yn Sir y Fflint.
“Rydym yn ddiolchgar i bawb a dreuliodd amser yn ymateb i’r ymgynghoriad. Mae eu hadborth wedi helpu llywio’r gwaith pwysig hwn a bydd yn sail i newidiadau ar draws y rhwydwaith yn y dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag active.travel@flintshire.gov.uk