Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hwb o £3.65 miliwn ar gyfer prosiectau cludiant ar draws Sir y Fflint

Published: 23/03/2026

Bydd Sir y Fflint yn elwa o fuddsoddiad mawr o £3.65 miliwn i wella cludiant cyhoeddus, isadeiledd teithio llesol a diogelwch ar y ffordd ar draws y sir.

Bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwireddu blaenoriaethau allweddol a nodwyd yng Nghynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru, gan helpu i greu cymunedau mwy diogel a mwy cysylltiedig sy’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio’r cyllid i ddatblygu nifer o gynlluniau sydd wedi’u creu i wella dewisiadau teithio, cynyddu teithio llesol (cerdded, beicio a theithio ar olwynion), lleihau dibyniaeth ar gerbydau preifat a sicrhau bod llwybrau allweddol yn fwy diogel i bawb sy’n defnyddio’r ffordd.

Ymhlith y prosiectau mae £800,000 ar gyfer llwybr teithio llesol rhwng Bagillt a Maes Glas, £500,000 ar gyfer cysylltiadau teithio llesol â’r A494 Pont Afon Dyfrdwy a £100,000 tuag at wasanaeth bws gwledig ‘Fflecsi’ newydd.

Mae arian wedi’i ddyrannu ar gyfer uwchraddio goleuadau stryd hefyd a gosod gwefrwyr cerbydau trydan mewn meysydd parcio cyhoeddus.

Bydd y prosiectau hyn yn cyfrannu at uchelgeisiau ehangach i wella cysylltedd ar draws gogledd Cymru, a rhoi hwb i dwf economaidd a mynd i’r afael â newid hinsawdd trwy gefnogi symudiad tuag at deithio mwy cynaliadwy.

Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Mae’r cyllid hwn yn golygu y gallwn fwrw ymlaen â darparu gwelliannau ymarferol y bydd pobl yn sylwi arnynt o ddydd i ddydd.

“Rydym yn gwybod bod pobl am gael ffyrdd mwy diogel, hawdd a dibynadwy i deithio, a bydd pob un o’r cynlluniau cyffrous hyn yn helpu i wireddu hynny.

“Bydd y gwelliannau y byddwn ni’n gallu eu darparu gyda’r cyllid hwn yn ein helpu i barhau i adeiladu rhwydwaith cludiant sy’n gweithio i bawb.”

Y cynlluniau sydd wedi cael cyllid yw:

·       Gwelliannau capasiti a diogelwch a gwelliannau mannau cyfyng ar safleoedd clwstwr damweiniau – £200,000

·       Llwybr teithio llesol Bagillt i Faes Glas – £800,000

·       Llwybrau diogel mewn cymunedau a chludiant o'r cartref i'r ysgol – £200,000

·       Cysylltiadau teithio llesol i’r A494 Pont Afon Dyfrdwy – £500,000

·       Mân waith teithio llesol a datblygu cynllun – £710,000

·       Bws Fflecsi gwledig newydd i wasanaethu Llanfynydd a chymunedau i’r de o’r Wyddgrug – £100,000

·       Gwelliannau isadeiledd bysiau – £30,000

·       Mannau i’r cyhoedd wefru cerbydau trydan mewn meysydd parcio cyhoeddus – £400,000

·       Adnewyddu goleuadau stryd – £80,000

·       Cynnal a chadw priffyrdd a gwelliannau – £550,000

·       Ymyriadau addysgol diogelwch ffyrdd – £80,400