Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion trefniadaeth ysgolion y Cyngor
Published: 25/03/2026
Mae Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard, wedi cadarnhau y bydd angen i brosesau ymgynghori ar y cynigion i ad-drefnu dwy brif ysgol ar gyfer yr Esgobaeth Gatholig a’r ddwy ysgol gynradd yn Saltney gychwyn eto ar ôl i etholiadau’r Senedd ddod i ben.
Gohiriwyd penderfyniad y Cabinet i ystyried canlyniad gwrthwynebiadau statudol i’r ddau gynnig ar 10 Mawrth, pan ddaeth her gyfreithiol hwyr i law mewn perthynas â’r cynnig Catholig. Ceisiodd y Cyngor ei gyngor cyfreithiol ei hun mewn perthynas â’r her hon, ac mae yn y broses o adolygu’r adborth gan ei fargyfreithiwr.
Gydag etholiadau’r senedd yn cael eu cynnal ar 7 Mai, mae pob corff cyhoeddus nawr wedi’u rhwymo gan reolau sy’n llywodraethu gweithgareddau yn ystod ‘cyfnod cyn etholiad’, sy’n cychwyn am 9am, ddydd Mercher, 25 Mawrth. Yn ystod y cyfnod hwn, mae gofyn i’r Cyngor ohirio eitemau y gellir eu hystyried yn gynhennus. Er bod y cynigion i ad-drefnu’r ysgolion yn rhai brys, nid ydynt yn ddigon brys i angen ystyriaeth yn ystod y cyfnod cyn etholiad. Mae Cod Trefniadaeth Ysgolion yn amodi cyfnod penodol i ystyried cynigion ad-drefnu ysgolion yn dilyn cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus. Gyda’r oedi oherwydd cyfnod cyn etholiad, nid oes modd bodloni’r amserlen hon. O ganlyniad, bydd angen cychwyn y prosesau ymgynghori ar gyfer y ddau gynnig o’r newydd.
Meddai Claire Homard: “Rydym yn gwerthfawrogi bod angen eglurder ar gymunedau yr ysgolion a effeithir ynghylch beth sy’n digwydd, ac rydym yn cydnabod y rhwystredigaeth bydd yr oedi hwn yn ei achosi, ond mae angen i’r Cyngor sicrhau bod y prosesau priodol yn cael eu dilyn, a bod cyngor cyfreithiol yn cael ei ystyried yn llwyr. Gallaf gadarnhau y byddwn yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ailgychwyn yr ymgynghoriad ar y ddau gynnig ym mis Mai, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl yr etholiad.
"Yn ogystal â hynny, gallaf gadarnhau y byddwn yn adlewyrchu ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyntaf ar y ddau gynnig, er mwyn gwella sut rydym yn cyfathrebu testunau pryder i gymunedau ysgolion, rhieni a gofalwyr.”