Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adeiladu sinerariwm cyntaf Sir y Fflint

Published: 17/04/2026

Mae gan deuluoedd yn Sir y Fflint ffordd newydd bellach o goffáu eu hanwyliaid mewn mynwent ar ôl adeiladu’r sinerariwm cyntaf erioed yn y sir.

Ym Mynwent Bwcle, mae’r sinerariwm yn adeilad gwenithfaen sy’n lle parhaol i bobl gadw llwch, gyda 36 o gilfachau neilltuol ar gael.

Ymhob cilfach gellir cadw llwch dau o bobl a dewis cael arysgrif personol ar blac ar y tu blaen.

Mae’r sinerariwm yn ddatblygiad blaengar wrth geisio defnyddio’r hynny o dir sydd gennym yn ein mynwentydd yn fwy effeithlon, a chynnig mwy o ddewis na dim ond claddiadau traddodiadol yn y ddaear.

Os yw’n boblogaidd, bydd y Cyngor yn ystyried gosod strwythurau tebyg mewn mynwentydd eraill.

Gwneir gwaith i wella’r ardal oddi amgylch hefyd er mwyn hybu bioamrywiaeth a chynefinoedd lleol a chreu lle tawel i bobl ddod i fyfyrio ynddo.

Meddai Katie Wilby, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant:  “Rydym yn falch o fod wedi gorffen gosod y sinerariwm cyntaf erioed yn Sir y Fflint a gallu cynnig mwy o ffyrdd i bobl goffáu eu hanwyliaid yn ein mynwentydd ni.

“Fel hyn gallwn wneud y defnydd gorau o’r lle sydd ar gael a darparu rhywle tawel i bobl fyfyrio.”