Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dileu dirwyon gwerth £540,000 i’r Cyngor yn dilyn gwelliannau ailgylchu
Published: 28/04/2026
Diolch i ymdrechion a chefnogaeth gynyddol trigolion Sir y Fflint, mae’r Cyngor wedi llwyddo i sicrhau bod dirwyon gwerth dros £540,000 yn cael eu dileu i gydnabod gwelliant ym mherfformiad ailgylchu’r sir.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi dirwyon tordyletswydd gwerth £356,279 ar gyfer 2022/23 a £184,340 ar gyfer 2023/24 wedi i Sir y Fflint fethu â chyrraedd targedau ailgylchu statudol yn y blynyddoedd hynny.
Roedd y Cyngor eisoes wedi llwyddo i ddileu dirwy tordyletswydd gwerth £663,000 ar gyfer 2021/22.
Mae’r dirwyon wedi cael eu dileu yn dilyn ymdrechion parhaus gan y Cyngor i drawsnewid ei wasanaethau gwastraff ac ailgylchu i wella cyfraddau ailgylchu’n sylweddol.
Rhan ganolog o hyn oedd mabwysiadu Strategaeth Adnoddau a Gwastraff newydd ar gyfer 2024-2030, a oedd yn cynnwys cyfres o fesurau i helpu i arwain Sir y Fflint tuag at economi gylchol, cynyddu effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gwastraff.
Rhan o hyn oedd newid casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu (biniau du) i gylched tair wythnos ym mis Ebrill 2025, gan annog preswylwyr i ailgylchu mwy a dargyfeirio gwastraff o’r bin du.
Cefnogwyd hyn gan newidiadau eraill i’r gwasanaeth gan gynnwys proses ‘gwastraff gweladwy’ newydd mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, a gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth o ailgylchu.
Mae dangosiadau cynnar yn awgrymu bod Sir y Fflint wedi cyflawni'r targed ailgylchu statudol o 70% ar gyfer 2025/26, i fyny o 63% y flwyddyn gynt, er bod y ffigyrau terfynol yn dal i gael eu gwirio.
Cyn belled a bo’r Cyngor wedi cyrraedd y targed o 70%, mae’n gobeithio y bydd dirwy arall am fethu’r targed yn 2024/25 yn cael ei dileu hefyd.
Meddai Katie Wilby, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant: “Rydym yn falch bod y cynnydd sylweddol a wnaethpwyd i’n perfformiad ailgylchu ar draws Sir y Fflint wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru trwy ddileu’r dirwyon hyn.
“Rydym wedi canolbwyntio ar ddarparu newid ystyrlon, hirdymor i symud Sir y Fflint tuag at economi mwy cylchol.
“Er bod rhagor o waith ar ôl i’w wneud, mae’r canlyniadau hyn yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae’r newidiadau wedi’u cael ac ymdrechion ein cymunedau, a hoffem ddiolch i breswylwyr am eu cefnogaeth barhaus.”