Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Teithio Llesol Ewlo: Cau Cylchfan Dewi Sant
Published: 01/05/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynghori preswylwyr, busnesau a defnyddwyr ffyrdd o waith pellach fel rhan o welliannau Teithio Llesol Ewlo.
Bydd cam nesaf y gwaith yn cael ei gynnal o 8yb ar 5 Mai tan 8yb ar 25 Mai, yn eithrio penwythnosau, gyda mesurau rheoli traffig ar waith ar gylchfan Dewi Sant, gan gynnwys cau braich Ffordd Parc Dewi Sant. Yn ystod y cyfnod hwn, ni chaniateir mynediad ar, nac oddi ar y gylchfan o Ffordd Dewi Sant.
Bydd traffig yn cael ei wyro ar hyd Wood Lane, a bydd busnesau lleol yn parhau i fod ar agor fel arfer.
Hoffai’r Cyngor ddiolch i breswylwyr, busnesau, a theithwyr am eu hamynedd a’u cydweithrediad wrth i’r gwelliannau hyn gael eu gwneud, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.