Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sigaréts a thybaco anghyfreithlon yn cael eu hatafaelu mewn cyrchoedd mewn pedair siop yn Sir y Fflint

Published: 05/05/2026

Mae sigaréts a thybaco anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu o bedair siop yn Sir y Fflint yn dilyn cyfres o gyrchoedd.

Cafodd y siopau yn yr Wyddgrug, Treffynnon, Bwcle a Chei Connah eu targedu mewn ymgyrch ddau ddiwrnod, a welodd cyfanswm o 8,460 o sigaréts ffug a 3.5kg o dybaco ffug yn cael eu hatafaelu.

Cynhaliwyd yr ymgyrch gan Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru, y gwasanaethau Mewnfudo, a chwn canfod Wagtail UK.

Roedd yn rhan o fenter genedlaethol o’r enw Ymgyrch CeCe, ymgyrch gorfodi gyda’r nod o darfu ar y cyflenwad o dybaco anghyfreithlon a chynnyrch cysylltiedig, a all beri risgiau difrifol i iechyd y cyhoedd a thanseilio busnesau lleol cyfreithlon.

Datgelodd archwiliadau o’r pedwar eiddo leoedd cuddio a oedd yn cael eu defnyddio i storio nwyddau anghyfreithlon.

Amcangyfrifir mai cyfanswm gwerth stryd y nwyddau a atafaelwyd oedd £2,500.

Meddai David Fitzsimon, Prif Swyddog Lleoedd a Thwf, “Roedd atafaelu’r sigaréts a’r tybaco anghyfreithlon yn ystod y cyrchoedd hyn yn amlygu graddfa’r broblem, a phwysigrwydd y gwaith gorfodi parhaus hwn.

“Yn ogystal â’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddwyr ddim yn cael sicrwydd ynghylch beth mae’r cynnyrch yn ei gynnwys, mae’r math hwn o weithgarwch troseddol yn niweidio masnach busnesau lleol, ac yn aml yn gysylltiedig â rhwydweithiau troseddol ehangach sy’n achosi niwed i’n cymunedau.”

“Rydym yn parhau i ymrwymo i gydweithio gyda’n partneriaid i nodi ac amharu ar fasnachu anghyfreithlon, a byddwn yn parhau i gymryd camau cadarn lle bynnag mae’n cael ei ganfod.”

Anogir preswylwyr i adrodd am werthiannau anghyfreithlon honedig i Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint, trwy anfon e-bost at trading.standards@flintshire.gov.uk