Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cais i’r Cabinet ail-ddechrau ymgynghoriad ynghylch ad-drefnu ysgolion
Published: 08/05/2026
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael cais wythnos nesaf i gymeradwyo dau ymgynghoriad statudol newydd ar ddau gynnig i ad-drefnu ysgolion.
Bydd y Cyngor yn ceisio barn am y cynnig i gau Ysgol Gynradd Gatholig St Anthony ac uno Ysgol Gynradd Gatholig St David, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn i greu un ysgol Gatholig newydd ar gyfer disgyblion 3-18 oed.
Bydd ymgynghoriad ar wahân yn ceisio barn am y cynnig i uno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Goffa Saltney Wood.
Cynhaliwyd ymarferion ymgynghori blaenorol ar yr un cynigion yn ystod 2025, ond daethpwyd â’r rhain i ben ym mis Mawrth 2026 pan ddaeth her gyfreithiol hwyr i law mewn perthynas â’r cynigion Ysgolion Catholig a allai fod wedi cael goblygiadau ar gyfer yr ymgynghoriad ar ysgolion Saltney hefyd.
Ceisiodd y Cyngor gyngor cyfreithiol mewn ymateb i hynny, fodd bynnag, roedd yr amser oedd ei angen i ystyried y cyngor hwnnw yn golygu nad oedd posib bodloni’r amserlen statudol a nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.
Yn dilyn adolygiad, mae’r Cyngor yn dal i fod o’r farn y dylid dwyn y cynigion gwreiddiol ymlaen er mwyn i’r Cabinet wneud penderfyniad arnynt.
Ers i’r broses wreiddiol ddod i ben, mae Cod Trefniadaeth Ysgolion 2026 newydd diwygiedig wedi ei gyhoeddi ac felly bydd ymgynghoriad newydd hefyd yn sicrhau fod y broses yn cydymffurfio gyda’r Cod newydd a bod gan fudd-ddeiliaid gyfle cyfredol a theg i wneud sylwadau.
Mae’r ddau gynnig yn anelu i leihau nifer y lleoedd gwag o ganlyniad i ostyngiad yn niferoedd disgyblion, gyda’r holl ysgolion dan sylw yn gyson heb eu llenwi.
Mae’r cynigion hefyd yn cyflwyno cyfleoedd i gryfhau trefniadau arweinyddiaeth ysgolion, gwella’r amgylchedd dysgu ar gyfer disgyblion a gwneud y mwyaf o’r buddsoddiad ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Byddai unrhyw gynigion, pe byddent yn cael eu cymeradwyo yn dilyn cwblhau’r prosesau statudol gofynnol, yn cael eu gweithredu erbyn Medi 2027.
Meddai Claire Homard, Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid: “Bydd ail-ddechrau’r broses ymgynghori yn sicrhau bod budd-ddeiliaid a’r cyhoedd yn cael cyfle arall i rannu eu hadborth cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud.
“Gwnaed y penderfyniad cywir i ddod â’r broses wreiddiol i ben tra’r oedd yr her gyfreithiol yn cael ei hystyried yn llawn. Ar ôl adolygu’r sefyllfa, rydym yn parhau i fod yn hyderus bod y cynigion hyn yn cynrychioli’r ffordd iawn ymlaen.
“Byddem yn annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau sydd ar y gweill a lleisio eu barn.”