Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gofalwyr maeth yn Sir y Fflint yn rhannu’r eiliadau hynny sy’n dangos datblygiad ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth
Published: 12/05/2026
Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, trafod ei ddiwrnod, gofyn i wylio ffilm; mae'r rhain yn eiliadau y gallai llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth yng Nghymru, maent yn symbol o un peth, sef datblygiad.
Mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Gallai hyn gynnwys ymddygiadau fel pryder, tynnu yn ôl yn emosiynol, ymateb mewn ffordd ddwys neu ei chael hi’n anodd dilyn rheolau. 
Mae arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Maethu Cymru wedi darganfod bod tua 80% o ofalwyr a holwyd wedi cefnogi plant wnaeth arddangos ymddygiadau fel hyn. Er y gall yr heriau hyn fod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd hefyd eu bod wedi sylwi ar ddatblygiadau ystyrlon o fewn y chwe mis cyntaf.
Rhannodd gofalwyr maeth fod yr eiliadau arloesol hyn yn aml yn ymwneud â’r cyfnodau bach o gysylltiad, ond maent yn cynrychioli mwy na hynny: i blant mewn gofal, mae'n golygu eu bod wedi gwneud cynnydd, eu bod wedi dechrau teimlo'n ddiogel, eu bod wedi dechrau gwella, teimlo eu bod yn cael eu caru a’u cefnogi wedi trawma plentyndod.
O ganlyniad i brofiad, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd bron pob gofalwr (93%) eu bod bellach yn hyderus wrth ymateb i ymddygiad sy'n gysylltiedig â thrawma.
Caiff y canfyddiadau hyn eu rhyddhau cyn Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch flynyddol fwyaf y DU sy'n digwydd bob mis Mai i godi ymwybyddiaeth o faethu. Mae thema eleni, Dyma yw Maethu, yn amlygu profiadau go iawn gofalwyr maeth a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel.
Mae Tom yn defnyddio ei brofiad o dyfu i fyny mewn gofal maeth i wneud gwahaniaeth i blant yn Sir y Fflint. Ynghyd â’i deulu ifanc, mae’n darparu gofal maeth tymor byr, gan gynnig cartref sefydlog i blant lleol tra’n eu helpu i aros yn gysylltiedig â’u cymuned.
“Rwy’n gefnogwr mawr o’r syniad na ddylai bod mewn gofal maeth atal pobl ifanc rhag symud ymlaen gyda’u bywydau. Nid yw erioed wedi fy rhwystro i rhag cyflawni fy nyheadau,” meddai.
Aeth Tom ymlaen i gwblhau ei addysg ac mae bellach yn gweithio fel darlithydd, rhywbeth y mae’n dweud ei fod yn rhannol oherwydd y gefnogaeth a gafodd i aros yn yr un ysgol tra oedd mewn gofal maeth.
“Gwnaeth aros yn lleol wahaniaeth enfawr. Rhoddodd sefydlogrwydd i mi a’m helpu i symud ymlaen.”
Heddiw, mae maethu yn ffordd iddo roi rhywbeth yn ôl.
“Rydyn ni wedi dod o hyd i ffordd i wneud iddo weithio gyda’n bywydau prysur. Mae’n hynod werth chweil rhoi ymdeimlad o berthyn i bobl ifanc a’r cyfle i gyrraedd eu potensial.”
Dywedodd Sarah Grant, Uwch Reolwr Gwasanaethau Plant, Cyngor Sir y Fflint:
“Rydym yn hynod falch o ofalwyr maeth fel Tom a’u teuluoedd. Mae maethu yn ymwneud â llawer mwy na dim ond darparu lle diogel i aros. Mae’n ymwneud â chreu ymdeimlad o berthyn a meithrin perthnasoedd cryf, cefnogol sy’n helpu plant a phobl ifanc i ffynnu.
Mae straeon fel un Tom yn dangos pa mor bwysig y gall y sefydlogrwydd hwnnw fod, yn enwedig pan fo plant yn cael eu cefnogi i barhau’n gysylltiedig â’u cymunedau lleol, eu hysgolion a’u rhwydweithiau. Mae’r perthnasoedd hyn yn chwarae rhan hanfodol yn eu lles emosiynol a’u cyfleoedd yn y dyfodol.
Mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle i ddathlu’r cysylltiadau sy’n newid bywydau ac i ddiolch i’n cymuned faethu ymroddedig yma yn Sir y Fflint am y gwahaniaeth maent yn ei wneud bob dydd.”
I ddarllen mwy am stori Tom, ewch i:
siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/pam-fod-aros-yn-lleol-yn-bwysig-i-tom-gofalwr-maeth-sydd-a-phrofiad-o-fod-mewn-gofal
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn Sir y Fflint, ewch i: siryfflint.maethucymru.llyw.cymru