Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Agored yr Archifdy

Published: 16/09/2014

Mae Archifdy Sir y Fflint ar agor ir cyhoedd ddydd Sadwrn 20 Medi er mwyn i ymwelwyr allu archwilio’r adeilad rhestredig Gradd II a dod i wybod mwy am ei hanes. Maen gyfle i weld Yr Hen Reithordy, dod o hyd i lle roedd Rheithoriaid Penarlâg yn byw, lle y bu farw un o Archesgobion Caergaint a dysgu am ei drigolion or 18fed ganrif hyd heddiw. Mae teithiau tywys yn cychwyn am 11am a 12.30pm a byddant yn cynnwys nodweddion pensaernïol yr adeilad, tu ôl ir llenni yn yr ystafelloedd diogel lle mae cofnodion hanesyddol y Sir yn cael eu cadw, ac ymweliad diddorol âr Stiwdio Gadwraeth. Yn ogystal â hyn, bydd lluniaeth a helfa drysor gyda gwobrau. Maer digwyddiad am ddim ac yn cael ei gynnal rhwng 10am a 2pm. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg: “Dewch draw i ymweld âr adeilad hanesyddol hyfryd hwn. Nid yn unig y maer adeilad ei hun yn llawn hanes, mae’n llawn deunydd archif gwych syn gofnod o hanes ein hardal. Maen gyfle gwych i weld beth syn mynd ymlaen yn yr Archifdy. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01244 532364 neu anfonwch e-bost at archives@flintshire.gov.uk