Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tîm Prydau Ysgol yn yr wyl
Published: 15/09/2014
Bydd Tîm Prydau Ysgol Sir y Fflint yn hyrwyddo bwytan iach yng Ngwyl Fwyd a
Diod yr Wyddgrug drwy gynnal rownd derfynol fyw or gystadleuaeth Dewch i
Goginio.
Mae plant o bob rhan or sir wedi bod yn cymryd rhan yn y rowndiau cymhwyso ers
Wythnos Bwytan Iach ym mis Mehefin a bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd
derfynol yn arddangos eu gallu coginio ar y Bws Coginio symudol yn y digwyddiad
ar 20 a 21 Medi.
Gwahoddwyd disgyblion i gyflwyno eu ryseitiau eu hunain ar gyfer y
gystadleuaeth sydd â’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o gydbwysedd maethlon prydau
ysgol a hyrwyddo cynnyrch lleol. Roedd yn rhaid ir ryseitiau gynnwys o leiaf
dau o gynhwysion lleol; prif gwrs a phwdin, cymryd dim mwy nag 1.5 awr i’w
paratoi a’u coginio; darparu pryd cytbwys ac ni ddylair cynhwysion gostio mwy
na £5.
Bydd plant o ysgolion cynradd Ysgol Llanfynydd, Ysgol Glanrafon, Ysgol
Gwenffrwd ac Ysgol Penyffordd a disgyblion uwchradd o Ysgolion Uwchradd Castell
Alun ac Argoed yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth goginio.
Dros y penwythnos, mae Gwasanaeth Prydau Ysgol Sir y Fflint yn croesawu
disgyblion a phlant i gymryd rhan mewn sesiynau coginio syn addas i’w hoedran
ar y bws gydar nod o annog plant i fod yn gogyddion hyderus a chodi
ymwybyddiaeth o Brydau Ysgol Sir y Fflint. Maer Bws Coginio ar agor rhwng
10am a 4.45pm ac mae mynediad am ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Am ffordd wych i
hyrwyddo bwytan iach drwy gael y plant i gymryd rhan, nid yn unig wrth
goginio’r prydau bwyd, ond drwy gynllunio, dod o hyd i gynhwysion, y gyllideb a
sut i ddarparu pryd cytbwys iach.
“Pob lwc i bawb syn cymryd rhan a byddwn yn annog pawb i ymweld âr Bws
Coginio symudol i flasur bwyd gwych sydd ar gael.
Nodyn ir Golygydd
Fech gwahoddir i anfon ffotograffydd ir rownd derfynol fyw o’r gystadleuaeth
rysáit Dewch i Goginio ddydd Sul 21 Medi yn y prynhawn ar y Bws Coginio yng
Ngwyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug.
Teitl y Llun: Y Bws Coginio