Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Maes Hamdden Gronant

Published: 17/09/2014

Mae cymuned wedi ymgynnull i ddathlu amddiffyn ardal hamdden a werthfawrogir yn fawr. Mae Tir Hamdden Gronant wedi ennill statws maes mawreddog Brenhines Elizabeth II gan sefydliad Meysydd Chwarae Cymru, syn amddiffyn darnau o dir ar gyfer y dyfodol, yn cyfyngu ei ddefnydd i chwarae awyr agored, chwaraeon a hamdden am genedlaethau i ddod. Cyflwynwyd plac Meysydd Chwarae Cymru i gadeirydd Cyngor Cymunedol Llanasa, sef y Cynghorydd Fred Gilmore gan y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod y Cabinet dros Strategaeth Gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden a ddywedodd: “Mae gwarchod mannau gwyrdd y Sir ar gyfer hamdden ac i blant chwarae arnynt yn hynod o bwysig. Mae cael rhywle i redeg o gwmpas yn yr awyr iach yn fantais fawr o ran iechyd a lles. Mae pymtheg o lefydd yn. Sir y Fflint eisoes wedi cael eu gwarchod gan yr elusen gyda chymorth gwaith a wnaed gan y Cyngor ac Asiantaethau partner. Daeth plant o Ysgol Gynradd Gronant a chynghorwyr cymunedol i’r digwyddiad. Ewch i www.fieldsintrust.org i gael rhagor o wybodaeth. Pennawd y Llun: Cadeirydd Cyngor Cymunedol Llanasa, y Cynghorydd Fred Gilmore gydar Cynghorydd Kevin Jones Cynghorwyr cymunedol ac aelodau or gymuned.