Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Marchnad Yr Wyddgrug
Published: 16/09/2014
Bydd Marchnad yr Wyddgrug ar agor dros benwythnos 20 a 21 Medi i gyd-fynd â
Gwyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug.
Bydd ymwelwyr yn gallu blasu hyfrydwch Marchnad enwog canol tref yr Wyddgrug ar
y Stryd Fawr, sydd ar agor Ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 9am a 4pm.
Gall siopwyr edrych ar dros 30 o stondinau sy’n gwerthu amrywiaeth eang o
nwyddau gan gynnwys offer cartref, dillad a chynnyrch lleol, y dewis da o
siopau annibynnol mawr a chael eu hysbrydoli gan yr Wyl Fwyd a Diod wych.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod y Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
Maen siwr y bydd yr awyrgylch yn yr Wyddgrug yn wych gydar farchnad ar agor
ddydd Sadwrn a dydd Sul, gan gynnwys cannoedd o ymwelwyr â’r Wyl Fwyd a Diod.
Byddwn yn pawb i gefnogi yr Wyddgrug ac ymweld âr ardal dros y penwythnos.