Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2014/15

Published: 19/09/2014

Disgwylir i welliannau parhaus i ddiogelwch a safonau bwyd gael eu cymeradwyo mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth (16 Medi). Bydd aelodaur Cabinet yn edrych ar Gynllun Gwasanaeth Bwyd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod syn sicrhau gwasanaeth gorfodi cyfraith bwyd cyson ledled y Sir a Chymru. Maer cynllun yn cynnwys Diogelwch Bwyd, Safonau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid ac maen canolbwyntio ar wella gwahanol rannau or gwasanaeth bob blwyddyn. Un elfen fu cynnig hyfforddiant ar gyfer gweithredwyr gwasanaeth bwyd mewn gwahanol ieithoedd megis Cantoneg. Y llynedd, gwnaeth y corff syn rheoleiddior diwydiant bwyd, Awdurdod Safonau Bwyd Cymru, ganmol cryfderaur gwasanaeth gan gynnwys; y ffordd mae Sir y Fflint yn cofnodi polisïau a gweithdrefnau ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd; y cyngor a roddir i fusnesau ar draws y Gwasanaeth Bwyd a Bwyd Anifeiliaid cyfan; rheoli ac ymchwilio i achosion a chlefydau heintus syn ymwneud â bwyd a hyrwyddo diogelwch a safonau bwyd. Ar gyfer 2014/15 mae’r cynllun yn canolbwyntio ar roi cyngor cynhwysfawr i fusnesau ar y newid mawr yn y ddeddfwriaeth Safonau Bwyd a ddaw i rym ym mis Rhagfyr a hyfforddiant drwy gyfrwng Tyrceg ar gyfer pobl syn trin bwyd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Mae safonau bwyd yn y Sir yn flaenoriaeth i’n tîm Gwarchod y Cyhoedd ac maer cynllun hwn yn golygu y gallwn osod nodau a thargedau i wneud gwasanaeth sydd eisoes yn rhagorol hyd yn oed yn well. “Mae mentrau fel darparu hyfforddiant mewn gwahanol ieithoedd yn hynod o bwysig gan ei fod yn gwneud Gwasanaeth Safonau Bwyd hyd yn oed yn fwy hygyrch i bawb yn Sir y Fflint.