Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid y Dreth Tirlenwi

Published: 19/09/2014

Gallai grwpiau cymunedol gychwyn elwa o gynllun cyllido safle tirlenwi ar ôl i adroddiad gael ei drafod mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth (16 Medi). Mae’r Gronfa Cymunedau Tirlenwi (LCF) yn gynllun credyd treth arloesol sydd yn gwrthbwyso rhai o effeithiau negyddol gweithrediadau safle tirlenwi. Mae’r cynllun yn golygu y gall gweithredwyr safleoedd tirlenwi dalu cyfran ou hatebolrwydd treth tirlenwi i sefydliadau nad ydynt er elw syn cyflwyno prosiectau er lles cymunedau ar amgylchedd yng nghyffiniau safleoedd tirlenwi. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru dreth ar safleoedd tir lenwi yn 1996 er mwyn lleihau’r nifer o ddeunyddiau oedd yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi ac er mwyn hyrwyddo dulliau amgylcheddol cynaliadwy i reoli a thaflu gwastraff. Gall unrhyw sefydliadau nad ydynt er elw wneud cais am gyllid yn uniongyrchol i Ymddiriedolaeth Amgylcheddol Cory gynnwys Cynghorau Sir a Chymuned, gan dybio bod y cais yn diwallu’r meini prawf a bod y sefydliad yn gallu darparu 10 y cant or cyfraniadau a bod y ceisiadau’n cael eu hasesu yn chwarterol. Fe anfonir rhagor o wybodaeth at Gynghorau Tref a Chymuned ac at aelodau lleol er mwyn darparu cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am y broses ymgeisio, a bydd manylion ynglyn â sut i wneud cais i’w gweld ar wefan y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod y Cabinet dros Strategaeth Wastraff, Diogelur Cyhoedd a Hamdden: “Dyma ffordd wych o ddefnyddio treth amgylcheddol er lles y cymunedau cyfagos, a buaswn yn annog unrhyw un yn yr ardal a allai fod angen cyllid ar gyfer prosiect i ddarllen y canllawiau i ddarganfod a allent elwa.