Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Teithio Llesol Ewlo: Cau Ffyrdd

Published: 20/05/2026

Fe gynghorir modurwyr y bydd ffordd B5125 The Highway yn Ewlo yn cael ei chau dros dro rhwng dydd Mawrth 26 Mai am 9.30am a dydd Gwener 29 Mai am 6pm, yn rhan o waith Teithio Llesol parhaus.

Fe fydd hyn yn effeithio ar ran o’r B5125 o gylchfan Dewi Sant, hyd at Carlines Avenue.

Fe fydd trefniadau rheoli traffig ar waith drwy gydol y gwaith.

Fe anogir gyrwyr i gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw, gadael amser teithio ychwanegol, a dilyn arwyddion y llwybrau amgen a mesurau rheoli traffig a fydd ar waith yn ystod y gwaith.

Diolchwn i breswylwyr, busnesau a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a’u cydweithrediad tra bydd y gwaith yma’n cael ei wneud.