Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau ar gyfer canolfan archif newydd yn symud ymlaen ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru

Published: 04/06/2026

Mae cynlluniau ar gyfer canolfan archif newydd o’r radd flaenaf ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn dal i ddatblygu. Mae preswylwyr wedi cael eu gwahodd i fynychu cyfres o sesiynau galw heibio i’r cyhoedd er mwyn cael mwy o wybodaeth am y prosiect uchelgeisiol.

Ym mis Ebrill 2024, cymeradwyodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol gyllid cam datblygu i gefnogi cynlluniau ar gyfer canolfan archif bwrpasol newydd ger Theatr Clwyd.

Bydd y ganolfan newydd arfaethedig yn dod â staff a chasgliadau gwasanaethau archif Sir y Fflint a Sir Ddinbych at ei gilydd i greu cartref modern a hygyrch ar gyfer casgliadau hanesyddol cyfoethog y rhanbarth, wrth gefnogi rhaglen gweithgarwch cymunedol tair blynedd eang.

Yn dilyn proses dendro lwyddiannus drwy Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, penodwyd Wynne Construction yn Gontractwr Dylunio ac Adeiladu ar gyfer y prosiect.

Bydd proses ymgynghori cyn y cam cynllunio ar gyfer y caniatâd cynllunio yn rhedeg o 21 Mai i 18 Mehefin. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld y dogfennau hyn, maen nhw ar gael yn:

·        Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg), yr Hen Reithordy, Rectory Lane, Penarlâg CH5 3NR; ar agor dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau (9.30am – 4.30pm); ac

·        Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (Rhuthun), yr Hen Garchar, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun LL15 1HP; ar agor o ddydd Mercher i ddydd Gwener (9.30am – 4.30pm)

Fel rhan o’r cam nesaf hwn, mae preswylwyr yn cael eu hannog i fynychu dau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus. Bydd y sesiynau yn cynnig cyfle i bobl ddysgu mwy am y cynigion, gofyn cwestiynau a rhannu eu barn.

Bydd y ddau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus cyn y cam cynllunio yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

  • Yr Hen Lys Rhuthun: Dydd Iau, 4 Mehefin (3pm – 7pm) (Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun LL15 1AA)
  • Llyfrgell yr Wyddgrug: Dydd Mercher, 10 Mehefin (12 hanner dydd – 5pm) (14 Canolfan Siopa Daniel Owen, yr Wyddgrug, CH7 1AP)

Ynghyd â datblygiad y cynlluniau adeiladu, mae rhaglen eang o weithgareddau yn cael ei datblygu hefyd er mwyn cyflwyno archifau i gynulleidfa fwy eang ac amrywiol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru. Nod y gweithgareddau yw annog mwy o bobl i archwilio ac ymgysylltu â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a straeon Gogledd Ddwyrain Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Dyma gyfle cyffrous i greu canolfan archif fodern a fydd yn helpu i gadw a dathlu’r hanes a rennir rhwng ein cymunedau am genedlaethau i ddod.

“Mae’r prosiect yn fwy o lawer nag adeilad – mae’n golygu creu cyfleoedd i fwy o bobl gysylltu â straeon, casgliadau a threftadaeth rhyfeddol Gogledd Ddwyrain Cymru. Byddem yn annog preswylwyr i ddod i’r sesiynau galw heibio a dysgu mwy.”

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r prosiect hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn nhreftadaeth ddiwylliannol y rhanbarth a bydd yn helpu i sicrhau bod ein casgliadau archif pwysig yn cael eu diogelu, eu bod yn hygyrch a’u bod yn cael eu mwynhau gan gynulleidfa fwy eang o lawer.

“Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl eisoes yn rhan o helpu i ffurfio’r rhaglen weithgareddau, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r ymgysylltiad hwnnw wrth i’r prosiect ddatblygu.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Rydym yn falch o fod yn cefnogi cyfnod datblygu parhaus y prosiect cyffrous hwn ac yn edrych ymlaen at ei weld yn datblygu dros y misoedd nesaf. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, nod y prosiect yw dod â chymunedau ynghyd i helpu i ddylunio lle croesawgar, hygyrch sy'n amddiffyn ac yn rhannu treftadaeth gyfoethog y rhanbarth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

Os hoffech ddysgu mwy am y gwasanaeth y mae AGDdC yn ei gynnig, neu gael y newyddion diweddaraf am y prosiect Archifau Creadigol, ewch i’n gwefan – https://www.agddc.cymru/