Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Gofalwyr 2026

Published: 10/06/2026

Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o’r 5.8 miliwn o bobl yn y DU sy’n darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog, ac yn amlygu’r angen am welliannau mewn cefnogaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl.

Bydd Wythnos Gofalwyr 2026 yn cael ei chynnal rhwng 8 ac 14 Mehefin, ac yn canolbwyntio ar y thema “Adeiladu Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ofalwyr”.

Mae gofalwyr di-dâl yn arbed £184 biliwn bob blwyddyn i economi’r DU - sy’n cyfateb i ail GIG - ond nid yw pawb yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt. Mae gwaith ymchwil Carers UK yn dangos bod mwy na hanner (57%) o ofalwyr yn teimlo pwysau llethol ‘yn aml’ neu ‘bob amser’.

Mae cymuned sy’n gyfeillgar i ofalwyr yn lle, gofod neu sefydliad sy’n gwerthfawrogi gofalwyr, ac yn gwneud rhywbeth ymarferol i’w cefnogi gan adnabod gofalwyr, gwrando ac ymateb i’w profiadau, fel nad ydynt yn cael eu gadael i ymdopi ar eu pen eu hunain.

Mae hyn yn cynnwys y gweithle, cymunedau lleol, cymunedau crefyddol, meddygfeydd, cymdogaethau GIG lleol, fferyllfeydd, ysgolion, colegau a phrifysgolion, busnesau neu gymunedau ar-lein sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl. Bydd Wythnos Gofalwyr 2026 yn taflu goleuni ar beth sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd, a beth sydd angen newid, fel bod gofalwyr di-dâl yn cael mwy o gydnabyddiaeth.

Beth sy’n gwneud cymuned sy’n gyfeillgar i ofalwyr?

Mae cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr yn lleoedd, gofodau, gwasanaethau a grwpiau cymunedol lle mae gofalwyr yn cael eu cydnabod, eu deall a’u gwerthfawrogi. Maent yn gwneud cefnogaeth yn rhan o fywyd bob dydd, gan sicrhau bod gofalwyr yn cael y cyfleoedd a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.  Maent yn cynnwys pobl sy’n: 

  • adnabod gofalwyr di-dâl, a’r rôl hollbwysig maent yn chwarae
  • deall gwirionedd ac effaith gofal
  • cymryd camau i nodi a chefnogaeth gofalwyr mewn ffyrdd ymarferol
  • grymuso gofalwyr i fyw bywydau llawn

Pan mae cymunedau yn cydweithio fel hyn, mae gofalwyr yn cael cyfleoedd tecach, a all arwain at fywydau gwell.

Ni waeth maint eich cymuned, neu sut rydych yn cysylltu, mae camau ymarferol ac ystyrlon y gallwch eu cymryd i wneud eich cymuned yn fwy cyfeillgar i ofalwyr. 

Dysgwch fwy am sut y gallwch adeiladu cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr o fewn y meysydd canlynol:

Digwyddiad Wythnos Gofalwyr

Mae NEWCIS yn cynnal Digwyddiad Dathlu Wythnos Gofalwyr ar Fferm Clawdd Offa, Pen-y-Ffordd. Mae croeso i’r holl ofalwyr ddod i’r digwyddiad. I ddysgu mwy, ac i archebu, ewch i www.newcis.org.uk.

Pa gymorth sydd ar gael yn Sir y Fflint?

Yn Sir y Fflint rydym yn falch o gefnogi trigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu, trwy wasanaethau mewnol a’n sefydliadau partner.

Mae gennym ystod eang o wasanaethau a sefydliadau gofalwyr yn Sir y Fflint sydd ar gael i helpu, gan gynnwys:

  • Darparu gwybodaeth, cyngor ac Asesiadau Anghenion Gofalwyr i gefnogi gofalwyr yn eu gwaith gofalu
  • Cefnogi lles gofalwyr ac, os ydynt yn gymwys, eu helpu i gymryd seibiant o’u gwaith gofalu.
  • Grwpiau cefnogi a chwnsela.
  • Cyngor ar hyfforddiant, addysg a chefnogaeth i weithio.
  • Cyfeirio at gyrff gwirfoddol sy’n gallu rhoi grantiau a chymorth i ofalwyr.
  • Cymorth arbenigol i ofalwyr pobl sydd â Dementia, Iechyd Meddwl, Anaf i’r Ymennydd, Camddefnyddio Sylweddau ac ati.
  • Eiriolaeth a chymorth i helpu gofalwyr i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
  • Cymorth i Ofalwyr Ifanc.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau gofalwyr ewch i:

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Social-Services/Related-Pages/Help-for-Carers.aspx

neu cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC)

Rhif ffôn: 01352 752525

Gwefan: www.newcis.org.uk

E-bost: enquiries@newcis.org.uk