Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Perfformiad cryf yn casglu Treth y Cyngor yn cael ei gydnabod
Published: 12/06/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu blwyddyn gref arall o ran ei berfformiad yn casglu Treth y Cyngor, ac mae’r awdurdod wedi cyflawni’r ail gyfradd gasglu uchaf yn ystod y flwyddyn yng Nghymru ar gyfer 2025/26, drwy gasglu 97.2% o Dreth y Cyngor yn ystod y flwyddyn yr oedd yn ddyledus.
Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod y Cyngor yn parhau i berfformio’n llawer gwell na nifer o awdurdodau ledled Cymru, gan gasglu tua 3.3% yn fwy na Chynghorau eraill yn ystod y flwyddyn yn y chwartel isaf. Yn ariannol, mae hyn gyfystyr â £4.5m mewn incwm ychwanegol i gefnogi gwasanaethau lleol hollbwysig i breswylwyr a chymunedau.
Y Cyngor hwn sydd â’r nifer isaf ond un o symiau sydd heb eu talu fesul annedd drethadwy o ran ôl-ddyledion mwy hirdymor.
Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu’r gwaith caled parhaus ac ymrwymiad gwasanaeth Treth y Cyngor, ynghyd â chefnogaeth preswylwyr sy’n parhau i dalu eu Treth y Cyngor er gwaetha’r pwysau ariannol parhaus.
Fe ailddatganodd y Cyngor ei ymrwymiad i gefnogi preswylwyr sy’n wynebu anawsterau ariannol, gan annog unrhyw un sy’n cael trafferth gyda’u taliadau i gysylltu â Gwasanaeth Treth y Cyngor cyn gynted â phosibl drwy ffonio 01352 704848 i drafod y gefnogaeth a’r trefniadau talu sydd ar gael.
Wrth drafod y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Cyllid, “Rydym ni’n falch iawn o’r cyflawniad yma, ac yn ddiolchgar i breswylwyr am barhau i flaenoriaethu taliadau Treth y Cyngor mewn cyfnod sy’n parhau i fod yn hinsawdd economaidd heriol i nifer o aelwydydd.
“Mae cyflawni’r ail gyfradd uchaf yng Nghymru yn gyflawniad aruthrol ac mae’n dangos effeithiolrwydd ein dull, ymroddiad ein timau ac ymgysylltiad cadarnhaol sydd gennym gyda’n cymunedau.
“Mae pob punt a gasglwyd yn helpu i ni barhau i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol y mae preswylwyr yn dibynnu arnynt bob dydd.”