Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Headway Sir y Fflint yn Ail-lansio

Published: 12/06/2026

Mae gwasanaeth cymorth hanfodol i bobl ledled y sir sydd wedi'u heffeithio gan anaf i'r ymennydd wedi'i ail-lansio.

Nododd Headway Sir y Fflint yr achlysur â digwyddiad cymunedol yr oedd nifer fawr yn bresennol ar ei gyfer ac a ddaeth â goroeswyr a'u teuluoedd, asiantaethau gofal, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, gwasanaeth atal digartrefedd Cyngor Sir y Fflint, Cyfreithwyr Gamlins a sefydliadau lleol eraill ynghyd.

Mae'r grwp yn un o fwy na 100 o ganghennau'r elusen genedlaethol, ac mae ganddo ran hanfodol yn y gwaith o gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan anaf i’r ymennydd drwy gymorth ymarferol, dealltwriaeth ac arweiniad.

Mae rhai o'r gwasanaethau y mae'n eu darparu yn cynnwys cyfeillio, cynorthwyo a mentora, sesiynau galw heibio, a chefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr.

Aeth Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Mel Buckley, i’r ail-lansiad a ddywedodd fod gan y digwyddiad arwyddocâd personol.

Dywedodd y Cynghorydd Buckley: “Fel goroeswr anaf i’r ymennydd, rwy’n deall o brofiad pa mor hanfodol yw cael cefnogaeth ymarferol yn ogystal â dealltwriaeth wirioneddol.

“Mae Headway Sir y Fflint yn darparu hynny, ac mae’n achubiaeth go iawn i bobl leol a’u hanwyliaid.”

Dywedodd Steven Scollins, Cadeirydd Headway Sir y Fflint: “Mae ail-lansio Headway yn gam pwysig wrth gryfhau cefnogaeth leol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan anaf i’r ymennydd.

“Rydym ni’n falch o fod wedi cefnogi’r digwyddiad ail-lansio yn Abakhan, gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid i wella’r gwasanaethau hanfodol sydd ar gael ledled Sir y Fflint.”

Mae'r grwp yn cyfarfod ar ddydd Mercher cyntaf bob mis rhwng 1pm-3pm yng Nghaffi Abakhan, Ffordd yr Arfordir, Mostyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â flintshire@headway.org.uk