Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Published: 17/06/2026

Mae rhaglen fuddsoddi fawr i ehangu darpariaeth addysg arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi cael ei chymeradwyo gan Gabinet Cyngor Sir y Fflint.

Mae'r cynlluniau'n rhan o strategaeth hirdymor i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am leoliadau arbenigol, lleihau dibyniaeth ar ddarpariaeth gostus y tu allan i'r sir a sicrhau y gall plant gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn nes at adref.

Nododd adroddiad i'r Cabinet sut mae'r galw am ddarpariaeth arbenigol wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae cam cyntaf y rhaglen yn cynnwys datblygu canolfan addysg arbenigol newydd ar gyfer dysgwyr â phroffiliau niwroamrywiol ac sy’n osgoi’r ysgol ar sail emosiwn (EBSA), yn hen adeilad Ysgol Croes Atti yn y Fflint. Wedi'i reoli gan Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen, bydd y cyfleuster yn darparu lle i tua 80 o ddysgwyr, yn ogystal â darparu cefnogaeth allgymorth ac ymyriadau i blant mewn lleoliadau prif ffrwd.

Cymeradwyodd y Cabinet hefyd greu canolfan gynhwysiant newydd ar y safle yn Ysgol Treffynnon. Bydd y ganolfan fodiwlaidd bwrpasol yn darparu amgylchedd hyblyg i ddisgyblion sydd angen cefnogaeth ychwanegol, ymyriadau arbenigol a chymorth i gael mynediad at weithgareddau dysgu.

Rhagwelir y bydd mwy o'r canolfannau hyn yn cael eu creu mewn ysgolion uwchradd eraill fel rhan o gam diweddarach y rhaglen.

Yn ogystal, bydd darpariaeth ategol newydd dan arweinyddiaeth Ysgol Pen Coch yn cael ei chreu i helpu i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am leoedd ysgol gynradd arbenigol, gyda 27 o blant ar restr aros yr ysgol ar hyn o bryd. Caiff y cyfleuster ei leoli ar y cyd ar safle ysgol gynradd brif ffrwd, ac mae nifer o safleoedd ar y rhestr fer yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd.

Cytunodd y Cabinet hefyd i barhau i ddatblygu cynigion i ehangu capasiti yn ysgolion arbenigol Ysgol Pen Coch ac Ysgol Maes Hyfryd. Bydd gwaith dichonoldeb yn archwilio opsiynau gan gynnwys ehangu adeiladau presennol yr ysgol, adeiladu adeiladau newydd ar y safleoedd presennol, neu ddatblygu ysgol newydd ar gyfer pob oed ar safle gwahanol.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid o £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru tuag at ganolfan gynhwysiant Ysgol Treffynnon, ac £1.5 miliwn pellach tuag at yr ailddatblygiad gwerth £5 miliwn i adeilad Ysgol Croes Atti.

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae’r cynigion hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn addysg arbenigol a byddant yn sicrhau bod Sir y Fflint mewn sefyllfa dda i fodloni’r galw presennol a’r galw yn y dyfodol.

“Drwy greu cyfleusterau newydd a chynyddu capasiti yn ein hysgolion arbenigol presennol, byddwn yn gallu cefnogi mwy o ddysgwyr yn nes at adref, lleihau amseroedd aros am leoedd a darparu’r amgylcheddau modern o ansawdd uchel y mae ein disgyblion yn eu haeddu.”