Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn cryfhau cefnogaeth i breswylwyr wrth i bwysau costau byw gynyddu

Published: 17/06/2026

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi egluro’r gwaith helaeth sy’n cael ei wneud i gefnogi preswylwyr wrth i gostau byw barhau i roi pwysau ar aelwydydd ar draws y sir.

Clywodd Aelodau’r Cabinet heddiw fod y Cyngor yn darparu amrywiaeth eang o fesurau i helpu preswylwyr i reoli costau cynyddol, cael mynediad at wasanaethau hanfodol, a chynnal sefydlogrwydd ariannol.

Yn y cyfarfod, clywyd bod cefnogaeth i blant a theuluoedd yn dal i fod yn flaenoriaeth. Mae Prydau Ysgol am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) bellach o fudd i 8,294 o blant ysgol gynradd ar draws Sir y Fflint, ac mae 4,674 o ddisgyblion yn dal i fod yn gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim ar sail prawf modd, ac mae 589 arall wedi’u diogelu dan drefniadau pontio.

Clywodd y Cabinet ei bod yn dal i fod yn bwysig bod teuluoedd cymwys yn cyflwyno cais am Brydau Ysgol am Ddim, hyd yn oed wrth gael UPFSM, er mwyn sicrhau bod ysgolion yn parhau i gael cyllid o’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer y plant hyn.

Mae hefyd yn golygu bod cefnogaeth ychwanegol ar gael, gan gynnwys bod yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol. Eleni, darparwyd 4,674 o grantiau sy’n dod i gyfanswm o £618,000 i helpu gyda chostau gwisg ysgol ac offer.

Clywodd y Cabinet hefyd fod cefnogaeth â chostau tai yn dal i fod yn faes allweddol o ran galw. Dyfarnodd y Cyngor Daliadau Disgresiwn at Gostau Tai gwerth £270,000 yn 2025/26. Yn ogystal, darparodd Cronfa Ddisgresiwn y Cyfrif Refeniw Tai £122,372 i helpu tenantiaid y Cyngor gydag ôl-ddyledion rhent, anghenion hanfodol yn y cartref a chefnogaeth mewn argyfwng.

Mae help yn cael ei ddarparu i aelwydydd sy’n dibynnu ar danwydd oddi ar y grid hefyd, sy’n cynnwys olew gwresogi ac LPG. Bydd cynllun yn agor cyn hir i breswylwyr sy’n cael cefnogaeth trwy Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Gallant gael taliad £200. Yn y cyfamser, mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig hyd at £750 tuag at danwydd oddi ar y grid ar gyfer pobl heb unrhyw gynilion.

Mae gwaith ar dlodi bwyd yn parhau i ehangu hefyd, gyda mwy o ddefnydd o bantrïau ac oergelloedd cymunedol ar draws y sir. Mae’r Cyngor wedi darparu cyllid refeniw a chyfalaf i gryfhau’r gwasanaethau hyn.

Bu wyth ar hugain o Fannau Cynnes a Diogel yn gweithredu dros fisoedd y gaeaf, gan gynnig bwyd, cynhesrwydd, cyswllt cymdeithasol a mynediad at gefnogaeth ehangach. Mae’r fenter Ffrwythau am Ddim mewn Ysgolion Uwchradd yn parhau i hybu bwyta’n iach a lleihau anghydraddoldeb o ran bwyd.

Mae Sir y Fflint yn arwain y ffordd yng Nghymru trwy ddefnyddio platfform Olrhain Teuluoedd Incwm Isel, sy’n helpu i nodi preswylwyr a fyddai’n elwa’n ariannol o ymgysylltiad rhagweithiol wedi’i dargedu.

Mae’r Cyngor wedi llofnodi Siarter Budd-daliadau Cymru ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i symleiddio mynediad at fudd-daliadau sydd wedi’u datganoli a sicrhau profiad mwy tosturiol a chyson i breswylwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, Gwerth Cymdeithasol a Chymunedau: “Rydym yn gwybod bod nifer o aelwydydd ar draws Sir y Fflint yn parhau i wynebu pwysau ariannol go iawn fel costau cynyddol, incymau ansicr a heriau’r gyfundrefn les yn ddyddiol.

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod modd i breswylwyr gael mynediad at y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir, boed hynny’n help gyda chostau tai, bwyd, hanfodion ysgol neu gyngor lles.

“Dyma pam mae’r gwaith ataliol a amlygwyd yn hyn mor bwysig – rydym yn nodi angen yn gynharach ac yn helpu teuluoedd cyn i broblemau fynd yn argyfyngau.

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid i gryfhau ein hymateb a chefnogi lles ein cymunedau.”