Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn gwneud cynnydd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
Published: 18/06/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg ar draws ei wasanaethau a’i weithlu.
Mae Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg, a gymeradwywyd gan y Cabinet yr wythnos hon, yn nodi sut mae’r Cyngor wedi hyrwyddo’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a sut mae wedi bodloni gofynion Safonau’r Gymraeg.
Mae hefyd yn nodi amrywiaeth o fentrau sydd â’r nod o gynyddu cyfleoedd i breswylwyr a gweithwyr y Cyngor ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg.
Carreg filltir fawr a nodir yn yr adroddiad yw agor Ysgol Gymraeg Croes Atti ym mis Tachwedd 2025 – yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gyntaf i gael ei hadeiladu gan y Cyngor ers iddo gychwyn ym 1996.
Mae’r ysgol yn darparu addysg i hyd at 240 o ddisgyblion, gan gynnwys rhaglen drochi i ddisgyblion sy’n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg, a gofal plant y blynyddoedd cynnar a man cymunedol.
Mae ysgolion cynradd ar draws y sir yn parhau i ymgysylltu’n gadarnhaol â’r Siarter Iaith a rhaglen Cymraeg Campus, sydd wedi’u hanelu at gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol.
Mae Tîm Datblygu Chwarae’r Cyngor yn cefnogi plant a theuluoedd hefyd, gan gynnwys gweithio gyda theuluoedd ffoaduriaid a rhai sydd wedi adleoli i’r ardal yn ddiweddar.
Mae defnyddio’r Gymraeg wedi dod yn rhywbeth cyfarwydd yng nghlybiau ieuenctid Saltney a Chei Connah hefyd ac mae pecynnau i helpu i hyrwyddo’r Gymraeg wedi’u rhannu gyda grwpiau eraill hefyd.
Yn y cyfamser, mae’r Cyngor wedi parhau i ehangu cyfleoedd i aelodau staff ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae’r gyfran o weithwyr sy’n nodi nad oes ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg wedi gostwng o 33.1% i 28.7% yn ystod y flwyddyn. Mae cefnogaeth barhaus i ddysgwyr Cymraeg trwy hyfforddiant a mentrau’r gweithlu.
I breswylwyr, mae’r adroddiad yn pwysleisio bod eu dewis iaith yn cael ei gofnodi pan fyddant yn cysylltu â gwasanaethau’r Cyngor y tro cyntaf. Gwelwyd cynnydd sylweddol o ran nifer yr ymweliadau â thudalennau gwe Cymraeg y Cyngor yn ystod y flwyddyn. Cofnodwyd mwy na 128,000 o achosion, o’i gymharu â 80,000 yn 2024/25.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu cyfranogiad y Cyngor mewn digwyddiadau Cymraeg eu hiaith, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, dathliadau Dydd Gwyl Dewi a Diwrnod Shwmae/Su’mae.
Cafodd y Cyngor dair cwyn yn ymwneud â’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn. Ym mhob achos, cymerwyd camau i fynd i’r afael â’r materion a godwyd a gwella darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol.
Mae blaenoriaethau ar gyfer 2026/27 yn cynnwys datblygu canolbwynt iaith Gymraeg newydd ar fewnrwyd y staff, nodi mwy o gyfleoedd i gyflwyno enwau lleoedd Cymraeg yn y sir, a datblygu hyder gweithwyr ymhellach wrth ddefnyddio eu Cymraeg.
Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae hyrwyddo a chroesawu’r Gymraeg yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor. Mae’r adroddiad hwn yn dangos y cynnydd cadarnhaol yr ydym ni’n ei wneud i sicrhau bod modd i breswylwyr gael mynediad at wasanaethau trwy’r Gymraeg a bod cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn parhau i gynyddu.”