Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymru i groesawu dau gymal o Daith Prydain Lloyds i Ferched 2026
Published: 18/06/2026
Mae’r lleoliadau a fydd yn croesawu Taith Prydain Lloyds i Ferched 2026 wedi cael eu datgelu a bydd y trydydd a’r pedwerydd cymal yn mynd trwy Gymru ddydd Gwener a dydd Sadwrn 21 a 22 Awst, gyda chymalau o’r Wyddgrug i’r Gogarth yn Llandudno ac o Lanidloes i’r Gelli Gandryll yn y drefn honno.
Bydd rhifyn 2026, sy’n rhan o Daith y Byd UCI i Ferched, yn dod i’r Wyddgrug ar gyfer y trydydd cymal ddydd Gwener 21 Awst. Dyma’r tro cyntaf i ras Taith gychwyn yn yr Wyddgrug, ond mae Sir y Fflint wedi croesawu cymalau yn ras y dynion yn y gorffennol. Fodd bynnag, hwn fydd y tro cyntaf i’r ardal groesawu ras y merched.
Daeth Lotte Kopecky yn fuddugol ar y promenâd yn Llandudno yn ôl yn 2024, sef y tro diwethaf i gymal orffen yn y dref glan môr. Gyda'r Gogarth yn cynnig dringfa olaf fryniog i'r beicwyr blaenllaw, mae'r rhanbarth yn darparu cwrs heriol a thrawiadol, gan ddod ag atgofion yn ôl o 2021, pan frwydrodd Julian Alaphilippe a Wout van Aert am fuddugoliaeth ar y penrhyn yn Nhaith y dynion.
Ar ôl cynnal cymalau rasys merched a dynion yn y rhanbarth ers 2010, bydd Powys yn croesawu beicio cyffrous ar hyd ei ffyrdd unwaith eto ym mis Medi. Bydd Llanidloes a'r Gelli Gandryll, sydd hefyd yn enwog am Wyl y Gelli Gandryll, yn lleoliadau newydd sbon ar gyfer cynnal dechrau a diwedd y Daith.
Yn y Trallwng, Powys hefyd bydd cymal tri Grand Départ y Tour de France yn 2027 yn cychwyn ar ddydd Sul 4 Gorffennaf 2027. Bydd Taith Prydain Lloyds felly yn rhoi rhagflas o’r rhanbarth gyda rasys beicio o'r radd flaenaf yr haf hwn.
Mae cynnal digwyddiadau beicio mawr fel Taith Prydain Lloyds i Ferched yn rhan o bartneriaeth a gytunwyd rhwng British Cycling, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Conwy a Chyngor Powys i feithrin cysylltiadau beicio a thwristiaeth yn y rhanbarth.
Dywedodd Jonathan Day, Cyfarwyddwr Digwyddiadau British Cycling: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â ras fawreddog Taith Prydain Lloyds i Ferched i’r lleoliadau gwych hyn ym mis Awst. Am y tro cyntaf, mae’r un faint o gymalau yn y ras hon â ras y dynion a gynhelir ychydig wythnosau'n ddiweddarach, felly mae'n gyfle enfawr i greu gwyl feicio go iawn, gyda ras y merched yn ddechreuad cyffrous i ychydig wythnosau o rasio elitaidd gwych.
“Rydym yn cyflwyno lleoliadau a chymalau newydd yn yr Wyddgrug, Llanidloes, a’r Gelli Gandryll, ac mae’n wych dychwelyd i leoliadau blaenorol y Daith yn Cockermouth, Clitheroe, Blackpool, Llandudno a Leamington Spa, gan ddod ag amrywiaeth go iawn i’r cyrsiau wrth i ni deithio ar draws Cymru a Lloegr.
"Ar ran British Cycling Ventures, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'n partneriaid ar draws y pum cymal am eu cefnogaeth i gynnal a darparu’r ras nodedig hon ym mis Awst, a'n galluogi i ddod â rasys o'r radd flaenaf i'w cymunedau dros bum diwrnod cofiadwy a llawn cyffro, gan ledaenu pleserau beicio ar hyd y llwybr, ac ysbrydoli mwy o bobl i fynd ar gefn feic a byw bywydau iachach."
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Mae hwn yn gyfle gwych i roi’r chwyddwydr ar Sir y Fflint ac arddangos popeth sydd gan ein sir i’w gynnig. Bydd yn denu ymwelwyr o bell ac agos wrth greu ymdeimlad gwirioneddol o gyffro a balchder yn ein cymunedau. Edrychwn ymlaen at groesawu cystadleuwyr a gwylwyr i’r Wyddgrug a helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.”
Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: "Rwyf wrth fy modd yn cael croesawu Taith Prydain i Ferched yn ôl i Landudno. Dyma'r union fath o ddigwyddiad mawr sy'n arddangos popeth sy'n wych am ein hardal - ein lleoliad arfordirol godidog, ein croeso cynnes, a'n gallu i gynnal achlysuron chwaraeon o'r radd flaenaf. Rwy'n edrych ymlaen at groesawu beicwyr, timau a chefnogwyr o bob cwr o'r DU a thu hwnt."
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Rydym yn hynod falch o groesawu cymal pedwar Taith Prydain Lloyds i Ferched i Bowys. Mae'n anrhydedd enfawr ac yn rhoi cyfle gwych i ni arddangos ein sir hardd a dod â manteision economaidd i'n cymunedau trwy fwy o dwristiaeth.
“Gyda disgwyl miloedd o wylwyr a sylw yn y cyfryngau byd-eang, bydd yn fuddiol i fusnesau lleol a’r economi ymwelwyr, tra hefyd yn ysbrydoli mwy o bobl i fod yn egnïol a mwynhau seiclo. Wrth i ni edrych ymlaen at gynnal rhan o Grand Départ y Tour de France yn 2027, mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i osod Powys yn gadarn ar y map fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr."
Gweler y rhestr lawn o gymalau isod:
Cymal 1: Cockermouth - Cockermouth
Cymal 2: Clitheroe - Blackpool
Cymal 3: Yr Wyddgrug i’r Gogarth, Llandudno
Cymal 4: Llanidloes i’r Gelli Gandryll
Cymal 5: Royal Leamington Spa – Royal Leamington Spa
Bydd ras y merched 2026 yn cychwyn yn Cockermouth gyda chwrs heriol o amgylch rhanbarth Cumberland cyn gorffen yn y dref farchnad brydferth hefyd. Bydd yr ail gymal yn llawn adloniant wrth i'r merched reidio o Clitheroe i dref glan môr eiconig Blackpool, yng nghanol gwyliau'r ysgol. Bydd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn croesawu dau gymal cyffrous ar y dydd Gwener a’r dydd Sadwrn, yn rhedeg o'r Wyddgrug i'r Gogarth yn Llandudno ac o Lanidloes i'r Gelli Gandryll yn y drefn honno, cyn penderfynu ar y Dosbarthiad Cyffredinol yn Swydd Warwick, gyda’r ras yn dechrau ac yn gorffen yn Royal Leamington Spa ddydd Sul 23 Awst.
Dangosodd ymchwil British Cycling, a ddarparwyd gan GSIQ, fod Taith Prydain Lloyds 2025 wedi cael effaith economaidd gronnus gyffredinol o £62.3 miliwn yn yr ardaloedd lleol a gynhaliodd y deg cymal yn 2025, gan gael effaith gymdeithasol enfawr ar gymunedau ledled y wlad hefyd.
Bydd cyhoeddiadau pellach, gan gynnwys manylion y llwybrau ym mhum cymal ras y merched a ras y dynion, yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda Thaith Prydain? Gallwch gofrestru eich diddordeb yma a chwarae rhan yn y digwyddiad mwyaf y gellir ei wylio am ddim yn y DU.