Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysbryd cymunedol yn rhoi anogaeth i griwiau Gwasanaethau Stryd yn ystod y gwres llethol

Published: 26/06/2026

Mae Cyngor Sir y Fflint yn canmol ymroddiad criwiau’r Gwasanaethau Stryd ac yn diolch i’r preswylwyr am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod o wres llethol yn ddiweddar.

Dros y dyddiau diwethaf, mae’r criwiau wedi gweithio’n ddiflino mewn tymereddau hynod uchel, gan ddechrau’n gynnar a chyflawni dyletswyddau sy’n heriol yn gorfforol mewn gwisgoedd trwm i leihau’r amhariad i’r casgliadau gwastraff ac ailgylchu.

Yn y cyfamser mae preswylwyr wedi mynd ati i ddangos eu gwerthfawrogiad, o gynnig diodydd oer a hufen iâ, i rannu geiriau calonogol a chodi llaw yn gyfeillgar.

Meddai Chris Goddard, Rheolwr y Gwasanaethau Stryd:  “Rwyf eisiau diolch i’n timau sydd, dros y dyddiau diwethaf, wedi dangos gwir ymroddiad mewn amgylchiadau hynod heriol.

“Rwyf hefyd eisiau diolch i’n preswylwyr.  Mae caredigrwydd y gymuned wedi gwneud gwahaniaeth i’r staff sy’n gweithio ar y rheng flaen.  Dyma Sir y Fflint ar ei gorau.

“Hoffwn ofyn i bawb barhau i ofalu am ei gilydd, yn enwedig cymdogion hyn neu sy’n fwy bregus.  Ar ein rhan ni, byddwn yn parhau i sicrhau bod timau’n cael eu cefnogi ac yn gallu gweithio’n ddiogel yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol.”