Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Northop Hall yn paratoi i fabwysiadu’r enw Cymraeg hanesyddol ‘Pentre-moch’
Published: 07/07/2026
Mae pentref yn Sir y Fflint yn paratoi i fabwysiadu fersiwn Cymraeg o’i enw yn ffurfiol, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.
Mae’r enw Cymraeg ‘Pentre-moch’ am Northop Hall wedi cael ei ddefnyddio gan genedlaethau o bentrefwyr, ond erioed wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol.
Daeth y cynnig i fabwysiadu’r enw’n ffurfiol yn dilyn cais gan Gyngor Cymuned Northop Hall, ac mae’n cael ei gefnogi gan adroddiad gan Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg.
Yn yr adroddiad, mae’r panel yn datgan mai’r argymhelliad yw mabwysiadu’r enw Cymraeg, i’w ddefnyddio ar y cyd gyda’r enw Saesneg, gan adlewyrchu cynnydd yn y defnydd o ‘Pentre-moch’ mewn ystod eang o gyd-destunau.
Datblygodd y pentref ger plasty Northop Hall, o amgylch fferm o’r enw Pentre Moch. Mae erthyglau papur newydd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cyfeirio at y pentref gyda’r enw hwn.
Mae adroddiad y panel yn dweud bod ‘Pentre-moch’ wedi cael ei ddefnyddio ers hynny a hyd heddiw, a gellir ei ganfod ar wefannau hanes lleol, yn y wasg, ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r adroddiad yn cydnabod bod enwau Cymraeg eraill ar gyfer y pentref wedi cael eu defnyddio dros y blynyddoedd, yn bennaf oherwydd awydd i ganfod enw mwy “parchus” na ‘Pentre-moch’.
Serch hynny, mae’n pwysleisio bod yr enw’n ddisgrifiadol, yn hytrach na’n ddirmygus, gan ychwanegu nad oes gan enwau eraill yr un sail hanesyddol â ‘Pentre-moch’, nac ychwaith wedi ennill ei blwyf yn yr un ffordd. Mae nifer o enwau lleoedd yng Nghymru yn cynnwys ‘moch’, megis ‘Mochdre’, meddai.
Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae enwau lleoedd yn rhan bwysig o’n treftadaeth a’n hunaniaeth, ac mae’n bwysig eu bod yn adlewyrchu defnydd lleol a thystiolaeth hanesyddol.
“Mae gan ‘Pentre-moch’ wreiddiau cadarn yn y gymuned, a sail hanesyddol glir, ac mae’n hen bryd ei fabwysiadu’n ffurfiol.
“Mae’r cynnig yn adlewyrchu gwelededd cynyddol a defnydd bob dydd o’r Gymraeg ledled Sir y Fflint, a byddwn yn parhau i ystyried ceisiadau gan gynghorau cymuned, ac adolygu argymhellion gan y Panel Safoni Enwau Lleoedd, i nodi cyfleoedd pellach i gyflwyno enwau Cymraeg.”
Trafodir yr adroddiad ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y Cyngor yr wythnos nesaf, cyn gofynnir i’r Cabinet fabwysiadu’r enw’n ffurfiol mewn cyfarfod ar 14 Gorffennaf.
Os yw’r Cabinet yn cefnogi’r argymhelliad, bydd angen i Gyngor Sir y Fflint hysbysu Gweinidog Cymru, Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Arolwg Ordnans, a Chofrestrydd Cyffredinol yr enw Cymraeg newydd.
Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei hysbysu o’r penderfyniad hefyd, er mwyn sicrhau bod yr enw Cymraeg ar gyfer Northop Hall yn cael ei gynnwys ar y rhestr enwau lleoedd safonol a gyhoeddwyd yn swyddogol ganddynt.