Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Addasu rheolaeth o safleoedd blodau gwyllt mewn ymateb i’r tywydd poeth parhaus
Published: 22/07/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fonitro a rheoli ei safleoedd blodau gwyllt ar draws y sir yn flynyddol. Fel arfer caiff yr ardaloedd hyn eu torri a’u casglu o fis Gorffennaf ymlaen, gyda gwaith yn parhau i fis Awst, Medi a Hydref unwaith i’r blodau gwyllt orffen blodeuo a gosod hadau.
Mae’r tywydd eithafol eleni wedi effeithio’n sylweddol ar ein cynefinoedd blodau gwyllt. Mae nifer o rywogaethau wedi hadu yn llawer cynt nag arfer, ac yn anffodus mae eraill wedi marw cyn gosod hadau. Gyda’r rhagolygon yn dynodi parhad o’r amodau poeth a sych, rydym yn addasu ein dull rheoli ar gyfer safleoedd a’r gymuned ehangach.
O ganlyniad, bydd yr ardaloedd blodau gwyllt ar ochr ffyrdd yn cael eu torri a’u casglu yn gynt na’r arfer trwy gydol fis Gorffennaf ac Awst. Mae’r penderfyniad yn cefnogi iechyd hirdymor ein safleoedd blodau gwyllt trwy dynnu llystyfiant sydd eisoes wedi cwblhau ei gylch bywyd, a cheisio ymateb i bryderon am y risg tân cynyddol yn ystod y tywydd poeth hir.
Rydym yn parhau i ymrwymo i gynnal a gwella bioamrywiaeth ar draws Sir y Fflint, a diolchwn i’r trigolion am eu dealltwriaeth wrth i ni addasu ein rheolaeth mewn ymateb i’r amodau eithriadol eleni.