Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pobl ifanc yn meithrin hyder a lles drwy sesiynau MMA yn ysgolion Sir y Fflint
Published: 29/07/2026
Mae myfyrwyr mewn dwy ysgol uwchradd yn Sir y Fflint yn elwa o sesiynau crefft ymladd cymysg (MMA) sy'n helpu i hybu hyder a lles.
Mae'r sesiynau, a gyflwynwyd yn Ysgolion Uwchradd Dewi Sant a Chei Connah mewn partneriaeth â The Way Forward Academy, wedi rhoi cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn math gwahanol o weithgarwch corfforol wrth ddatblygu sgiliau bywyd gwerthfawr ar gyfer y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth. 
Mae'r ddwy ysgol yn dweud bod y rhaglen wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth helpu disgyblion i feithrin hunanhyder, rheoli straen a datblygu gwydnwch.
Mae adborth gan fyfyrwyr wedi tynnu sylw at newidiadau personol cadarnhaol, gyda phobl ifanc yn nodi mwy o hyder ac yn teimlo'n fwy cadarnhaol amdanynt eu hunain.
Dywedodd yr hyfforddwr MMA Kieran Edwards: “Un o'r rhannau mwyaf pwerus o'r daith hon fu gweld y newidiadau yn y plant.
“Daeth rhai i mewn i'r sesiynau yn brin o hyder ac yn credu na allent gyflawni llawer, ond dros amser rydw i wedi eu gwylio'n camu y tu allan i'w parthau cysur, yn rhoi cynnig ar bethau newydd, ac yn dechrau credu ynddynt eu hunain. Roedd angen allfa gadarnhaol ar eraill i losgi egni a rheoleiddio eu hemosiynau.
“Mae gweld plant yn gadael sesiwn yn hapusach, yn dawelach, ac yn fwy hyderus nag yr oeddent pan gyrhaeddon nhw yn rhywbeth nad ydw i fyth yn blino arno.”
Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i ddarparu amgylchedd diogel, strwythuredig lle gall myfyrwyr ddysgu sgiliau newydd wrth ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol â’u cyfoedion. Trwy ymarferion partner a gweithgareddau hyfforddi, anogir disgyblion i gyfathrebu’n effeithiol a gweithio gyda’i gilydd.
Mae ysgolion wedi adrodd am ganlyniadau calonogol ers cyflwyno’r sesiynau, gan gynnwys gwelliannau mewn cyrhaeddiad yn yr ystafell ddosbarth ac agweddau myfyrwyr at ddysgu.
Dywedodd Dan Larkin, Rheolwr Ysgolion Bro Cyngor Sir y Fflint: “Mae MMA yn dysgu hunanreolaeth a pharch yn hytrach nag ymddygiad ymosodol. Mae cyfranogwyr yn dysgu nad trais yw’r ateb i wrthdaro a bod hyder, cyfathrebu, a hunanddisgyblaeth yn ffyrdd llawer mwy effeithiol o ddatrys heriau.
“Mae’r sesiynau hyn yn arfogi pobl ifanc â sgiliau bywyd gwerthfawr sydd o fudd iddynt yn yr ysgol ac o fewn eu cymunedau ehangach.”
Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:
“Mae’r sesiynau hyn yn enghraifft wych o sut y gallwn ymgysylltu pobl ifanc mewn profiadau newydd sy’n cefnogi eu lles corfforol ac emosiynol.” Mae’r adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr ac ysgolion yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y gall mentrau fel hyn ei wneud.”