Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn arwyddo Cyfamod Gofalwyr Ifanc
Published: 30/07/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ailddatgan ei ymrwymiad i gefnogi gofalwyr ifanc drwy arwyddo’r Cyfamod Gofalwyr Ifanc.
Nod yr addewid ar draws y DU yw gwella bywydau, lles a chyfleoedd gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc hyd at 25 oed.
Mae’r Cyfamod, a ddatblygwyd gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr a Chynghrair y Gofalwyr Ifanc, yn gosod deg canlyniad allweddol a nodwyd gan ofalwyr ifanc fel pethau yr oeddent yn eu hystyried yn hanfodol i wella eu bywydau a sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion.
Ar hyn o bryd, mae oddeutu 800 o ofalwyr ifanc yn cael eu cefnogi yn Sir y Fflint, gyda rhai yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu mor ifanc â 4 oed.
Mae gofalwyr ifanc yn darparu cefnogaeth ymarferol, cefnogaeth gorfforol a chefnogaeth emosiynol i rieni, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o’r teulu sy’n byw gyda salwch, anabledd, neu heriau iechyd meddwl.
Gwnaed y penderfyniad i arwyddo’r Cyfamod yn unfrydol gan Gynghorwyr ar ôl gwrando ar dri gofalwr ifanc yn sôn am eu profiadau. Soniodd y gofalwyr am y gefnogaeth y maen nhw’n ei darparu i rieni a brodyr a chwiorydd, a’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth gydbwyso eu cyfrifoldebau gofalu gyda’r ysgol a bywyd bob dydd.
Fe wnaethant hefyd sôn am y gwahaniaeth cadarnhaol y mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Sir y Fflint, a ddarperir gan Ofalwyr Ifanc GOGDdC, wedi’i wneud i’w bywydau.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles: “Mae gofalwyr ifanc yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’w teuluoedd a’u cymunedau, yn aml yn ymgymryd â chyfrifoldebau ymhell y tu hwnt i’w hoed.
“Roedd clywed yn uniongyrchol gan y gofalwyr ifanc yn neges bwerus i’n hatgoffa am effaith cyfrifoldebau gofalu, a pham y mae’n rhaid i ni sicrhau bod arwyddo’r Cyfamod yn llawer mwy nag arwydd symbolaidd.
“Tynnodd eu hanesion sylw at werth sicrhau fod gofalwyr ifanc yn cael eu nodi’n gynnar ac yn cael mynediad at y gefnogaeth a’r cyfleoedd y mae arnynt eu hangen i ffynnu.
“Rydym ni’n ymrwymo i wrando ar eu lleisiau a pharhau i weithio gyda phartneriaid fel Gofalwyr Ifanc GOGDdC i wneud yn siwr bod hyn yn digwydd.”
Drwy arwyddo’r Cyfamod, mae’r Cyngor yn ymuno â sefydliadau eraill ar draws y DU mewn ymrwymiad a rennir i wella canlyniadau ar gyfer gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc mewn meysydd yn cynnwys iechyd, lles, addysg a chyflogaeth.