Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cannoedd o blant yn mwynhau Cynllun Chwarae’r Haf Sir y Fflint bob dydd wrth i deuluoedd gael eu hannog i ymuno.

Published: 06/08/2026

Mae dros 600 o blant y dydd yn cymryd rhan yng Nghynllun Chwarae’r Haf poblogaidd Sir y Fflint, ac mae lleoedd ar gael o hyd am weddill y gwyliau.

Mae Cynllun Chwarae’r Haf, sy’n rhad ac am ddim, yn darparu cyfleoedd chwarae diogel, cynhwysol a diddorol i blant drwy gydol gwyliau'r haf. Mae'r rhaglen, sy'n gweithredu ar 49 o safleoedd, yn cynnig sesiynau dan arweiniad gweithwyr chwarae hyfforddedig, i helpu plant i aros yn egnïol a gwneud ffrindiau wrth fwynhau ystod eang o brofiadau chwarae creadigol.

Mae’r cynllun yn parhau mewn llawer o safleoedd drwy gydol y chwe wythnos, tra bod lleoliadau eraill yn gweithredu naill ai yn ystod wythnosau 1-3 neu wythnosau 4-6, sy'n golygu bod amser o hyd i gymryd rhan.

Mae'r gweithgareddau'n amrywio o safle i safle, ond maent yn cynnwys chwarae â gwrthrychau rhydd, celf a chrefft, a gemau chwaraeon. Mae pob cynllun chwarae yn galluogi plant i arwain eu chwarae eu hunain, sy’n golygu eu bod yn dewis eu chwarae yn rhydd, ei gyfarwyddo'n bersonol a'i ysgogi'n fewnol.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid drwy Gronfa Cymorth Argyfwng Bwyd Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau bwyd i blant sy'n mynychu sesiynau mewn lleoliadau mwy difreintiedig, yn ogystal â byrbrydau ar draws pob safle, gan helpu i gefnogi teuluoedd drwy gydol cyfnod gwyliau'r haf.

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae'n wych gweld cymaint o blant yn elwa o Gynllun Chwarae'r Haf eleni. Mae'r rhaglen yn rhan wirioneddol bwysig o wyliau'r haf i lawer o deuluoedd, gan ddarparu cyfleoedd am ddim i blant chwarae a chymdeithasu.

“Mae’r cynllun chwarae yn rhoi cyfle i blant chwarae a chymdeithasu, gan feithrin hyder a datblygu cyfeillgarwch newydd wrth fanteisio i’r eithaf ar haul yr haf. Byddwn yn annog teuluoedd lleol i archebu lle i'w plant os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Play-Development