Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwahoddiad i drigolion Sir y Fflint i lywio dyfodol cerdded, olwyno a beicio
Published: 11/08/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd trigolion i ddweud eu dweud ar ddyfodol cerdded, olwyno a beicio ar draws y sir fel rhan o ymgynghoriad statudol 12 wythnos ar ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM) wedi'i ddiweddaru.
Gweledigaeth Cyngor Sir y Fflint yw creu rhwydwaith sy'n golygu mai cerdded, olwyno a beicio yw’r ffyrdd mwyaf naturiol a chyfleus o deithio ar gyfer siwrneiau lleol bob dydd. Drwy wella cyfleoedd ar gyfer teithio llesol, mae'r Cyngor yn anelu at gefnogi ffordd iachach o fyw, lleihau dibyniaeth ar geir a helpu i greu trefi a phentrefi mwy diogel, deniadol ac addas i fyw ynddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod y Cabinet dros Wastraff a Chludiant: "Mae gan deithio llesol rôl hanfodol i'w chwarae wrth greu cymunedau iachach a gwneud ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd mwy deniadol i fyw a gweithio ynddynt.
"Rydym am glywed gan gynifer o bobl â phosibl yn ystod yr ymgynghoriad hwn er mwyn sicrhau bod Map y Rhwydwaith Teithio Llesol yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn ein helpu i gynllunio ar gyfer Sir y Fflint sy'n fwy cynaliadwy.”
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu rhwydweithiau teithio llesol yn rheolaidd. Cafodd Map Rhwydwaith Teithio Llesol presennol Sir y Fflint ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022, ac mae'r Cyngor bellach wedi adolygu'r cynnydd a wnaed dros y tair blynedd diwethaf.
Mae'r map yn cynnwys:
- Llwybrau Presennol – llwybrau sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerdded, olwyno a beicio neu gyfuniad o’r dulliau hynny.
- Llwybrau'r Dyfodol – llwybrau newydd arfaethedig neu lwybrau presennol y mae angen eu gwella i fodloni'r safonau gofynnol.
Cynhelir yr ymgynghoriad o 10 Awst tan 2 Tachwedd 2026. Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd y Map Rhwydwaith Teithio Llesol diwygiedig terfynol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2026.
Anogir trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i adolygu'r rhwydwaith arfaethedig a rhannu eu barn drwy gwblhau'r arolwg ar-lein.
Gallwch weld y map a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma.
Beth yw Teithio Llesol?
Mae Teithio Llesol yn golygu siwrneiau bob dydd, pellter byr a wneir ar droed, mewn cadair olwyn neu gyda chymorth symudedd, neu ar feic, fel teithio i'r gwaith, yr ysgol, y coleg, y siopau neu gyrchfannau lleol eraill.
Nid yw'n cynnwys cerdded na beicio ar gyfer hamddena, fel teithiau hamdden yng nghefn gwlad.
Digwyddiadau Ymgynghori
Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb lle gall trigolion ofyn cwestiynau a rhoi adborth. Mae dyddiadau’r digwyddiadau i’w gweld ar wefan yr awdurdod lleol.