Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu diwrnod canlyniadau
Published: 13/08/2026
Llongyfarchiadau i fyfyrwyr ôl-16 yn Sir y Fflint sydd yn dathlu heddiw wrth iddynt dderbyn graddau eu harholiadau.
Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae’r Cyngor yn falch o longyfarch pob dysgwr ôl-16 yn Sir y Fflint am eu gwaith caled wrth gyflawni eu canlyniadau.
"Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt ymgymryd â chyfleoedd newydd i ddysgu, boed hynny’n mynd i brifysgol, addysg bellach, dechrau prentisiaeth neu hyfforddiant, neu fynd i fyd gwaith.
"Fe hoffwn i hefyd ddiolch i’w rhieni a gofalwyr am eu hanogaeth a’u cefnogaeth, a chydnabod ymrwymiad ein hysgolion yn paratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiadau hynny.”
Meddai Claire Homard, Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid: “Fe hoffwn estyn fy llongyfarchiadau gwresog i’n holl ddysgwyr ôl-16 ar eu canlyniadau eleni. Gall pob person ifanc fod yn falch iawn o’u cyflawniadau a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn eu dyfodol.
"Mae heddiw yn brawf o waith caled myfyrwyr Sir y Fflint. Fe hoffwn i hefyd gydnabod sgil, ymroddiad ac ymrwymiad eu hysgolion a fu’n gweithio i sicrhau bod myfyrwyr yn cyflawni’r canlyniadau gorau.
"Dwi’n gwybod y bydd staff ein hysgolion yn parhau i gynnig cyngor ac arweiniad i ddysgwyr wrth iddynt wneud dewisiadau pwysig am eu dyfodol."