Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth parcio a theithio rhad ac am ddim wrth i Daith Prydain Lloyds i Ferched gychwyn yn Yr Wyddgrug

Published: 18/08/2026

Bydd gwasanaeth parcio a theithio rhad ac am ddim ar gael i wylwyr sy’n mynd i’r Wyddgrug ar gyfer cychwyn Cymal Tri Taith Prydain Lloyds i Ferched ddydd Gwener.

Mae’r gwasanaeth wedi ei drefnu gan Gyngor Sir y Fflint i helpu i leddfu pwysau parcio ar ddiwrnod a ddisgwylir i fod yn un prysur a chyffrous i’r dref.

Bydd Yr Wyddgrug yn croesawu rhai o feicwyr gorau’r byd ar gyfer y ras fawreddog, sy’n rhan o Daith y Byd i Ferched UCI, wrth iddynt gychwyn Cymal Tri – ras 105km dros Fryniau Clwyd i’r llinell derfyn yn y Gogarth yn Llandudno.

Dyma’r tro cyntaf i’r Wyddgrug gynnal cychwyn cymal Taith yn ogystal â’r tro cyntaf i Sir y Fflint groesawu ras y Merched.

Caiff y rhai hynny sy’n teithio i’r Wyddgrug mewn car eu hannog i barcio yn Neuadd y Sir. Bydd dau fws yn gweithredu’n barhaus rhwng Neuadd y Sir a Gorsaf Fysiau’r Wyddgrug o 8.30am tan 5.15pm. Y safle bws sydd agosaf at y Llysoedd fydd y man codi yn Neuadd y Sir.

Bydd sawl ffordd wedi ei chau trwy gydol y dydd. Am ragor o wydbodaeth, ewch i britishcycling.org.uk/tourofbritain/women/stagethree

Caiff gwylwyr eu hannog i gyrraedd yn gynnar a chynllunio eu taith ymlaen llaw.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth:  “Mae’r cyffro’n datblygu ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn ddiwrnod arbennig i’r Wyddgrug.

“Mae hwn yn gyfle gwych i ddangos ein sir i gynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol, tra’n rhoi’r cyfle i bobl leol i brofi camp o’r radd flaenaf ar garreg eu drws.

“Rydym yn disgwyl tyrfaoedd mawr trwy gydol y dydd, felly manteisiwch ar y gwasanaeth parcio a theithio rhad ac am ddim os gallwch chi i helpu i leihau tagfeydd.”