Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau TGAU

Published: 20/08/2026

Mae myfyrwyr ar draws ysgolion Sir y Fflint yn dathlu wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau TGAU.

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood - Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae’r Cyngor yn falch iawn o’n dysgwyr am y gwaith caled sydd wedi arwain at eu canlyniadau heddiw. Rydym yn falch iawn o’u cyflawniadau.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt yng nghamau nesaf eu dysgu, boed hynny trwy addysg ôl-16 neu trwy hyfforddiant neu gyflogaeth.”

Meddai Claire Homard Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid: “Rwy’n falch iawn o anfon llongyfarchiadau i bob un o’n dysgwyr a gafodd eu canlyniadau heddiw. Dylen nhw fod yn hynod falch o’u hunain.

“Rwy’n cydnabod gwaith y rhieni a gofalwyr yn cefnogi eu plant dros flynyddoedd eu haddysg, a diolch iddynt am weithio mewn partneriaeth lwyddiannus gyda’n hysgolion. Diolch i staff yr ysgol am eu cefnogaeth, eu hymroddiad a’u hymrwymiad i sicrhau bod ein disgyblion yn cael pob cyfle i lwyddo.

“Wrth i ni edrych ymlaen at flwyddyn academaidd newydd, rwy’n dymuno pob llwyddiant i’n dysgwyr â’u camau nesaf. Rwy’n gwybod y bydd ein hysgolion yn parhau i ddarparu cefnogaeth a chyngor am lwybrau’r dyfodol a pharatoi ar gyfer mis Medi.”