Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad wedi’i gyhoeddi yn dilyn arolwg o Wasanaethau Addysg Cyngor Sir y Fflint

Published: 24/08/2026

Mae arweinwyr yng Nghyngor Sir y Fflint yn ymrwymedig i gryfhau Gwasanaethau Addysg y sir ymhellach yn dilyn cyhoeddi adroddiad newydd gan Estyn.

Bu Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn arolygu Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid y Cyngor ym mis Gorffennaf, a chyhoeddwyd eu canfyddiadau heddiw (24 Awst).

Mae’r adroddiad yn dweud bod Gwasanaethau Addysg Sir y Fflint yn cael eu harwain gan swyddogion ymrwymedig sy’n deall yr heriau sy’n wynebu eu gwasanaethau a’u bod wedi gweithredu newidiadau pwrpasol i gefnogi ysgolion a dysgwyr diamddiffyn yn ystod cyfnod o bwysau ariannol a sefydliadol sylweddol.

Fodd bynnag, daeth yr arolygwyr i’r casgliad bod y Cyngor yn peri pryder sylweddol.

Mae’r Cyngor yn derbyn canfyddiadau’r adroddiad ac mae’n gweithio i gryfhau gwasanaethau yn y meysydd pryder a nodwyd.

Mae’r adroddiad yn gwneud pum argymhelliad.

·       Mynd i’r afael â’r pryderon diogelu a nodwyd yn ystod yr arolwg, ar lefel gorfforaethol a lefel gwasanaeth

·       Cryfhau cynllunio strategol i fynd i’r afael â’r risgiau a gaiff eu peri gan ddiffygion ariannol sydd gan ysgolion a gwella cynaliadwyedd ariannol ysgolion

·       Gwella effeithiolrwydd prosesau craffu fel bod aelodau etholedig yn canolbwyntio'n gyson ar risgiau strategol, canlyniadau dysgwyr a gwelliant hirdymor gwasanaethau addysg

·       Cryfhau arweinyddiaeth strategol a gwella ansawdd a chysondeb hunan-werthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant

·       Cryfhau cydweithio ar draws meysydd portffolio a gwasanaeth i sicrhau cefnogaeth a her fwy effeithiol i ysgolion

Er bod yr adroddiad yn nodi sawl maes lle mae angen gwelliant brys, mae hefyd yn nodi nifer o gryfderau yn y Gwasanaeth Addysg.

Mae arolygwyr yn cydnabod bod ymrwymiad cryf ymhlith uwch arweinwyr i wella gwasanaethau.

Dywedir bod Gwasanaeth Gwella Ysgolion y Cyngor, a sefydlwyd yn ddiweddar, yn meithrin perthnasoedd cryf gydag ysgolion, gan ddarparu cefnogaeth fwyfwy effeithiol a sicrwydd ansawdd, sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol.

Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod dull y Cyngor o gefnogi a herio ysgolion sy’n peri pryder, gan nodi bod sawl enghraifft lle mae hyn wedi cyfrannu at welliannau, yn enwedig yn y sector cynradd.

Mae’r adroddiad yn dweud bod mynd i’r afael ag effaith tlodi ar les dysgwyr yn flaenoriaeth ar draws y Cyngor. Mae’n dweud bod uchelgais cryf y staff i wella llesiant a lles plant a’u teuluoedd yn gryfder i’w nodi.

Gwelodd arolygwyr hefyd fod y Cyngor yn hybu diwylliant diogelu cadarnhaol ar draws pob gwasanaeth, ac mae hyn wedi’i gryfhau ymhellach gan newidiadau diweddar o ran arweinyddiaeth.

Mae’r adroddiad yn dweud bod y Cyngor wedi buddsoddi’n briodol mewn ymestyn cefnogaeth i ddisgyblion niwrowahanol, gan ymateb i gynnydd o ran galw. Mae’n canmol gwaith Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen wrth rannu arbenigedd gyda lleoliadau prif ffrwd trwy waith allgymorth a chydweithio.

Mae adroddiad arall am Wasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint wedi’i gyhoeddi heddiw hefyd. Mae’n dweud bod y Gwasanaeth yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd gwerthfawr sy’n cefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol pobl ifanc yn dda, sy’n elwa o arweinyddiaeth gref, staff brwdfrydig a phrofiadol ac sy’n amlygu dau faes arfer arbennig o gryf.

Meddai Neal Cockerton, Prif Weithredwr: “Mae’r ddau adroddiad yn cydnabod gwaith brwdfrydig a chadarnhaol y timau yn y Gwasanaeth Addysg ac Ieuenctid.

“Mae adroddiad Estyn am Wasanaeth Addysg y Cyngor yn gwneud pum argymhelliad yn benodol, gan gydnabod yr amgylchedd dwys y mae’r Gwasanaeth yn gweithio ynddo a’r camau sy’n cael eu cymryd i barhau i ddarparu gwasanaethau addysg o ansawdd uchel i’n hysgolion. 

“Mae’r pum argymhelliad a nodir yn yr adroddiad gan Estyn eisoes wedi dechrau cael sylw ac mae’r meysydd wedi cryfhau. Rwyf i, a swyddogion yn y Gwasanaeth, yn cymryd y materion a godwyd yn yr adroddiad o ddifri ac rydym yn gwbl ymrwymedig i weithredu i fynd i’r afael â nhw wrth i ni weithio’n agos gydag Estyn.

“Mae’r staff yn y ddau Wasanaeth wedi gweithio’n hynod o galed, ac yn parhau i wneud hynny, ac mae hyn wedi’i nodi yn y ddau adroddiad. Rwy’n cymryd y cyfle hwn i ddiolch iddynt am y gwaith maen nhw’n ei wneud gyda’n plant a’n pobl ifanc.”

Meddai’r Cynghorydd David Hughes, Arweinydd y Cyngor:  “Er bod yr adroddiad yn nodi meysydd lle mae angen i ni wella, mae hefyd yn cydnabod y cryfderau yn y Gwasanaeth,sy’n rhoi sylfaen gadarn i ni adeiladu arni.

“Rydym yn ymrwymedig i ddysgu o’r canfyddiadau hyn a symud ymlaen â’r newidiadau sydd eu hangen.”

Bydd y Cyngor yn llunio cynllun gweithredu a fydd yn nodi sut fydd yn mynd i’r afael â’r argymhellion hyn, a bydd Estyn yn monitro cynnydd yn erbyn y cynllun hwn yn ystod cyfres o ymweliadau dilynol.

Mae’r ddau adroddiad ar gael i’w darllen ar wefan Estyn.