Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint yn derbyn canmoliaeth gan Estyn am gefnogi lles a datblygiad pobl ifanc

Published: 24/08/2026

Mae Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint wedi derbyn canmoliaeth gan arolygwyr am ddarparu ystod eang o gyfleoedd gwerthfawr sy’n helpu pobl ifanc i ffynnu.

Bu Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn arolygu Gwasanaethau Ieuenctid y Cyngor ym mis Mehefin, a chyhoeddwyd eu canfyddiadau heddiw (24 Awst).

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ymrwymiad cryf y gwasanaeth i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol pobl ifanc.

Nododd arolygwyr bod nifer o’r bobl sydd ynghlwm â Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint yn gwella eu hyder, hunan-barch, gwytnwch a lles.  Mae’r gwasanaeth yn cynnig ystod eang a diddorol o weithgareddau, gan gynnwys clybiau ieuenctid mynediad agored, prosiectau cymorth wedi’u targedu, addysg awyr agored, a chyfleoedd i wirfoddoli ac arwain.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y gwaith arloesol sy’n mynd rhagddo gan y gwasanaeth i ymateb i broblemau sy’n effeithio ar berthnasoedd, hunaniaeth a lles pobl ifanc, sy’n eu helpu i feddwl mewn modd beirniadol am negeseuon ar-lein niweidiol a datblygu agweddau parchus tuag at eu hunain ac eraill. 

Nodwyd y ddarpariaeth Ysgol Goedwig gan y Gwasanaeth Ieuenctid fel cryfder sylweddol, sy’n cynnig “cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc ddysgu, cyflawni a ffynnu mewn lleoliad ysbrydoledig yn yr awyr agored”.

Mae’r adroddiad yn cydnabod arweinyddiaeth gref y Gwasanaeth Ieuenctid a’r sgiliau a’r arbenigedd ar draws y timau Ieuenctid a Chwarae.

Mae hefyd yn tynnu sylw at y berthynas gadarnhaol rhwng gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc, gan nodi fod staff yn darparu cefnogaeth ddibynadwy ac anfeirniadol sy’n helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu diogelu a’u parchu.

Mae arolygwyr yn canmol dull cynhwysol y gwasanaeth o sicrhau fod pobl ifanc o bob cefndir yn gallu cael mynediad at gefnogaeth a chyfleoedd ystyrlon, yn cynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, pobl ifanc LHDTC+, pobl ifanc sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal, rhieni ifanc, a’r rhai sydd mewn perygl o ddod yn NEET (ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).

Nodwyd gwaith partneriaeth cryf a gweledigaeth gadarn sydd wedi’u halinio â blaenoriaethau corfforaethol ac addysg fel cryfderau allweddol.

Mae’r adroddiad yn gwneud tri argymhelliad i helpu’r gwasanaeth i wella ymhellach:

·       Sicrhau fod pob aelod o staff yn cwblhau hyfforddiant Prevent a bod hyfforddiant diogelu hanfodol yn cael ei gofnodi’n gywir, ei ddiweddaru’n rheolaidd a’i fonitro’n agos

·       Gwella cysondeb ac ansawdd darpariaeth gwaith ieuenctid mynediad agored, gan gynnwys drwy gryfhau prosesau datblygu’r gweithlu, cefnogaeth a sicrwydd ansawdd

·       Cryfhau trefniadau hyrwyddo a marchnata’r cynnig gwasanaeth ieuenctid er mwyn gwella ymwybyddiaeth ac ymestyn ymgysylltiad â phobl ifanc a phartneriaid

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint, sy’n dod o dan y portffolio Addysg ac Ieuenctid, eisoes yn gweithio i fynd i’r afael â’r argymhellion hyn a llunio cynllun gweithredu.

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Rydym yn falch iawn fod Estyn wedi cydnabod yr effaith gadarnhaol mae Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint yn ei chael ar fywydau ein pobl ifanc.  Mae’r adroddiad yn amlygu ymroddiad ac angerdd ein timau, sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi lles a datblygiad pobl ifanc.

“Rydym yn croesawu argymhellion Estyn ac yn ymrwymo i ddatblygu’r holl gryfderau a nodwyd i sicrhau fod mwy fyth o bobl ifanc yn gallu elwa o’r gefnogaeth a’r cyfleoedd gwerthfawr mae ein Gwasanaethau Ieuenctid yn eu darparu.”

Cyhoeddwyd adroddiad ar wahân mewn perthynas â Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir y Fflint heddiw hefyd.

Mae’r adroddiadau ar gael i’w gweld ar estyn.llyw.cymru