Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailagor ffordd yng nghanol tref fel rhan o arbrawf

Published: 17/09/2026

Yn rhan o arbrawf gan Gyngor Sir y Fflint, bydd Brunswick Road ym Mwcle yn ailagor i draffig drwodd a bydd parcio cyfleus yn cael ei gyflwyno o ddydd Llun 21 Medi 2026.

Bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol a fydd yn galluogi’r Cyngor i weld sut mae Brunswick Road yn gweithredu o dan amodau gwahanol cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau hirdymor.

Bydd y cyfnod prawf, sy’n cael ei gefnogi gan saith o Gynghorwyr Sir Bwcle, yn gyfle i ddeall sut y gallai’r newidiadau effeithio ar symudiad traffig, parcio, hygyrchedd, a gweithrediad canol y dref o ddydd i ddydd.

Cynhelir yr arbrawf am gyfnod byr tan ddiwedd mis Hydref 2026.  O dan y ddeddfwriaeth, gall y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol fod yn weithredol am hyd at 18 mis, er fe all y Cyngor newid, diddymu neu ddod â’r cyfnod prawf i ben yn gynt os ydi’r broses fonitro yn dangos bod hynny’n briodol.

Yn ystod y cyfnod prawf, bydd y Cyngor yn casglu gwybodaeth am draffig a pharcio ac yn gwrando ar adborth gan fusnesau lleol, preswylwyr ac ymwelwyr.  Bydd y dystiolaeth yn helpu i benderfynu a ddylai’r trefniadau gael eu cadw, eu newid neu eu dileu.

Mae’r arbrawf â’r ffordd yn rhan o raglen ehangach o waith i edrych ar ddyfodol dyluniad ac ymddangosiad canol y dref.

Bydd proses ddylunio canol y dref yn ehangach, dan arweiniad Hemingway Design a WSP mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, yn edrych sut y gellir gwella canol y dref i greu gofod mwy deniadol, croesawgar a hygyrch i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

Bydd y broses ddylunio yn cael ei llywio gan ymgysylltu cyhoeddus, gan roi cyfleoedd i bobl leol, busnesau a defnyddwyr eraill â chanol y dref rannu eu barn a helpu i lunio cynigion wrth i’r gwaith ddatblygu. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu yn nes at yr amser o ran sut a phryd y gall pobl gymryd rhan. 

Bydd y cam dylunio a cham cychwynnol ei weithredu’n cael ei ariannu drwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU.

Bydd yr arbrawf â’r traffig yn darparu gwybodaeth werthfawr ynghyd â phroses ddylunio ehangach, gan helpu i sicrhau bod cynigion yn y dyfodol yn seiliedig ar sut mae canol y dref yn gweithio a barn y bobl sy’n ei ddefnyddio.

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Hinsawdd: “Mae’r arbrawf yma’n rhoi cyfle i ni weld sut mae’r ffordd yn gweithredu pan mae’n agored i draffig drwodd ac i ddeall beth mae’n ei olygu i ganol y dref yn ymarferol. Mae hi’n bwysig ein bod yn treulio amser yn casglu tystiolaeth ac yn gwrando ar brofiadau preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i helpu i lunio’r cynigion cyn gwneud unrhyw benderfyniadau hirdymor.

"Mae Cronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU yn rhoi cyfle pwysig i fuddsoddi yng nghanol y dref, ac fe hoffem sicrhau bod buddsoddiad yn arwain at welliannau sy’n gweithio i bobl sydd yn byw, gweithio ac yn treulio amser yma. 

Bydd gwybodaeth am yr arbrawf, y broses ddylunio strydlun ehangach a’r cyfleoedd i gymryd rhan yn cael eu rhannu drwy wefan a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

Mae’r Cyngor yn annog preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu a rhannu eu barn wrth i’r gwaith fynd rhagddo.