Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Campws Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug – Paratoadau ar gyfer Dymchwel

Published: 24/09/2026

Mae chwe blynedd bellach wedi mynd heibio ers dymchwel Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug yn rhannol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r Cyngor wedi bod yn glir ynghylch ei fwriad i fwrw ymlaen â dymchwel yr adeilad yn llwyr a gwneud defnydd gwell o’r tir.

Mae cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer defnyddio'r safle yn y dyfodol, ac mae preswylwyr ac ymwelwyr eisoes yn mwynhau manteision theatr a chanolfan ddiwylliannol o’r radd flaenaf, sy'n denu rhai o berfformwyr, awduron, cyfarwyddwyr a dylunwyr mwyaf y byd, yn ogystal â chyfleoedd cynhwysol ar gyfer dysgu ac ymgysylltu yn y gymuned.  Mae cynlluniau hefyd ar waith ar gyfer datblygu adeilad newydd ar y cyd ar gyfer gwasanaethau archifau Sir y Fflint a Sir Ddinbych, ar dir drws nesaf i Theatr Clwyd ar ei newydd wedd.

Dymchwel Neuadd y Sir ac Adeilad yr Hen Lyfrgell (sydd wedi'u lleoli y tu ôl i'r Llysoedd Barn) fydd cam olaf yr uwchgynllun ar gyfer y safle, a fydd yn arwain at ryddhau tir ar gyfer ailddatblygu, er ei bod yn rhy gynnar ar hyn o bryd i nodi’n union beth fydd yn rhan o’r ailddatblygiad hwnnw.

Mae Hysbysiad Ymlaen Llaw am Waith Dymchwel wedi'i gyflwyno i Wasanaeth Cynllunio'r Cyngor i'w ystyried, ac mae hysbysiadau wedi'u rhoi ar y safle.

Yn amodol ar ganiatâd angenrheidiol, bwriedir i'r gwaith dymchwel ddechrau yn gynnar yn 2027 a bydd yn cael ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Ted Palmer:  

“Bydd dymchwel Neuadd y Sir ac adeiladau cysylltiedig yn cyflwyno manteision sylweddol i'r Cyngor ac i drigolion Sir y Fflint.

Mae'r Cyngor wedi bod yn uchelgeisiol yn ei gynlluniau ar gyfer y safle hwn, a bydd y rhan olaf hwn o'r jig-so yn golygu bod hen adeilad, sydd wedi dod i ddiwedd ei oes ddefnyddiol, yn gwneud lle ar gyfer cyfleoedd datblygu mwy defnyddiol yn y dyfodol.