Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Teyrnged i’r Cynghorydd Teresa Carberry
Published: 25/09/2026
Yn drist iawn, bu farw’r Cynghorydd Teresa Carberry yn gynharach yr wythnos hon yn 64 oed.
Er mai dim ond ym mis Mai 2022 y cafodd ei hethol fel Cynghorydd, daeth y Cynghorydd Carberry yn aelod gwerthfawr iawn ac uchel ei pharch o’r Cyngor yn gyflym, ac roedd yn adnabyddus am ei dull teg a chytbwys at ei gwaith.
Bu mewn sawl rôl yn y Cyngor, yn nodedig bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ers 2022. Bu hefyd yn gwasanaethu ar Gyngor Tref yr Wyddgrug am nifer o flynyddoedd ac roedd yn athrawes fathemateg uchel ei pharch yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug am dros 30 mlynedd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dave Hughes: “Roedd y Cynghorydd Carberry yn boblogaidd ac yn uchel ei pharch gan bawb. Roedd hi’n gweithio’n hynod o galed a bu’n gweithio’n ddiflino i wneud gwahaniaeth i’w hetholwyr. Byddwn i gyd yn hiraethu amdani, colled enfawr i Sir y Fflint.”
Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Mel Buckley: “Rwy'n hynod o drist o glywed y newyddion am farwolaeth y Cynghorydd Teresa Carberry. Roedd hi’n gydweithiwr a chyfaill gwerthfawr iawn a ddangosodd llawer o wytnwch a dewrder. Er gwaetha’r problemau iechyd ofnadwy yr oedd yn eu hwynebu, Teresa oedd un o’r eneidiau mwyaf caredig ac addfwyn i mi gael y pleser o gwrdd â nhw erioed.
“Fe fydd yna golled ar ôl y Cynghorydd Carberry ymysg ei chydweithwyr a ffrindiau yng Nghyngor Sir y Fflint ac mae ein meddyliau gyda’i theulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn.”
Fel arwydd o barch i’r Cynghorydd Carberry, fe fydd y baneri y tu allan i Dy Dewi Sant yn cael eu chwifio’n isel.