Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn cael mwy na £1.15 miliwn ar gyfer Rhaglen THRIVE newydd.

Published: 30/09/2026

Mae Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint wedi cael £1,156,975.50 o Gronfa Twf Lleol ar gyfer blwyddyn gyntaf Rhaglen THRIVE Sir y Fflint.

Mae THRIVE yn dod â chefnogaeth ynghyd ar gyfer treftadaeth, adfywio, buddsoddiad a mentrau bywiog i drefi trwy raglen gydlynol o grantiau ar gyfer eiddo, safleoedd pwysig a busnesau.  Bydd yn helpu i ddatgloi buddsoddiad, defnyddio adeiladau gwag eto, gwella eiddo masnachol a chefnogi busnesau i sefydlu a thyfu.

Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu drwy’r Gronfa Twf Lleol.  Yng Nghymru, caiff y gronfa ei rheoli gan Lywodraeth Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth y DU. Y nod yw cynyddu cynhyrchiant, cryfhau economïau rhanbarthol a sicrhau bod mwy o bobl a chymunedau yn elwa o dwf economaidd ar draws Cymru.

Trwy dri chynllun grant, nod Rhaglen THRIVE Sir y Fflint yw:

  • datgloi buddsoddiad mewn safleoedd pwysig ac eiddo masnachol
  • defnyddio adeiladau gwag eto
  • gwella mannau masnachol ac annog buddsoddiad preifat
  • helpu busnesau i sefydlu, amrywio, gwella cynhyrchiant a thyfu
  • gwneud trefi Sir y Fflint yn fwy bywiog a chryfhau eu heconomïau lleol

Y tri chynllun grant yw:

SHAPE - grantiau o rhwng £30,000 a £300,000 i gefnogi gwelliannau treftadaeth strategol a chreu lleoedd trwy wella adeiladau a lleoedd pwysig a helpu i ddatgloi buddsoddiad ehangach. Mae hyn yn cynnwys asedau treftadaeth ac eiddo gwag lle mae costau uchel neu heriau ariannol eraill yn atal gwaith rhag symud yn ei flaen.

Cynllun Grant Gwella Eiddo Canol Trefi o rhwng £5,000 a £50,000 i wella eiddo masnachol. Gallai’r cyllid gefnogi gwelliannau i flaen siopau a thu allan adeiladau, gwaith hygyrchedd, mesurau effeithlonrwydd ynni a gwaith i ddefnyddio adeiladau gwag eto.  Mae hyn yn berthnasol iawn i eiddo sydd yn bwysig o achos eu lleoliad, treftadaeth, neu gyfraniad i gymeriad yr ardal.

GROW - grantiau o rhwng £1,000 a £30,000 i greu twf, adfywio a chyfleoedd ar gyfer cyfoeth drwy gefnogi busnesau newydd cymwys, busnesau, entrepreneuriaid a mentrau cymdeithasol. Gall y cyllid gefnogi datblygiad digidol, cyngor arbenigol, offer, sgiliau, cynnyrch newydd a mynediad i farchnadoedd newydd.

Gyda’i gilydd, bydd y cynlluniau yn helpu i wella eiddo, defnyddio adeiladu gwag eto a chefnogi busnesau i sefydlu a thyfu.  Bydd yn annog buddsoddiad, gweithgarwch busnes a thwf economaidd yn nhrefi Sir y Fflint.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Mae’r buddsoddiad sylweddol yma’n newyddion gwych i drefi Sir y Fflint. Bydd Rhaglen THRIVE yn helpu i ddatgloi buddsoddiad mewn adeiladau a safleoedd pwysig, gwella eiddo masnachol a chefnogi busnesau i sefydlu, ehangu a buddsoddi ar gyfer y dyfodol.

"Trwy ddod â chefnogaeth gwella eiddo a busnesau ynghyd, bydd y cyllid yma’n helpu i fynd i’r afael ag eiddo gwag, annog hyder a buddsoddiad, creu cyfleoedd ar gyfer twf busnes, a chryfhau hyfywedd hirdymor a gwytnwch economaidd canol ein trefi.”

Bydd THRIVE yn canolbwyntio ar Fwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton. Bydd y rhaglen yn cefnogi blaenoriaethau a nodwyd drwy’r Cynllun Creu Lleoedd a fabwysiadwyd neu a grëwyd ar gyfer y trefi hyn.

Dylai darpar ymgeiswyr SHAPE a GROW gysylltu â regeneration@flintshire.gov.uk ar gyfer trafodaeth gychwynnol.  Os yw hi’n ymddangos bod cais yn bodloni gofynion cymhwysedd cychwynnol y cynllun perthnasol, bydd y tîm yn darparu ffurflen gais, arweiniad a gwybodaeth atebol.

Dylai darpar ymgeiswyr Cynllun Grant Gwella Eiddo Canol Trefi fynd i www.flintshire.gov.uk/TCPIG a dilyn y camau ar-lein i wirio eu cymhwysedd a darganfod beth i’w wneud nesaf.

Ni all ymgeiswyr gychwyn unrhyw waith nag ymrwymo i unrhyw wariant cyn eu bod wedi derbyn Llythyr Cynnig Grant a’i dderbyn yn ffurfiol.  Mae cyllid wedi’i gyfyngu a bydd ceisiadau’n cael eu hasesu’n gystadleuol.