Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi rhent newydd

Published: 19/09/2014

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau proses ymgynghori i newid y ffordd y maer Cyngor yn codi am rent a gwasanaethau tai os bydd polisi newydd yn cael ei gymeradwyo mewn cyfarfod or Cabinet ar ddydd Mawrth (16 Medi). Mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Dai ac Adfywio wedi nodi’r angen ir Polisi Rhent newydd fod yn ei le gan awdurdodau lleol erbyn Ebrill 2015 ar ôl i system Cymhorthdal ??y Cyfrif Refeniw Tai ddod i ben. Mae gan y Cyngor system rhent gymhleth sydd bellach wedi’i ddyddio fel bod y polisi newydd yn rhoi’r cyfle i ddatblygu mwy o gysondeb. Argymhellir bod Sir y Fflint yn gweithio tuag at un rhent ar gyfer pob maint a math o eiddo. Maer polisi hefyd yn ystyried rhent a gwasanaethau fel glanhau a garddio cymunedol fel costau ar wahân. Mae proses ymgynghori ar y cynigion i gynnwys tenantiaid, lesddeiliaid a rhanddeiliaid eraill hefyd yn debygol o gael eu cymeradwyo gan Aelodaur Cabinet. Defnyddir rhent targed i osod lefelau rhent i wneud y gorau o fforddiadwyedd a defnyddir rhent targed ar gyfer tenantiaethau newydd o fis Ebrill 2015. Bydd unrhyw gostau am wasanaethau yn cael eu rhoi ar waith yn raddol dros gyfnod o dair blynedd o 2016. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai: “Bydd y polisi yn nodi canllawiau ar gyfer system rhenti llawer symlach ar draws Sir y Fflint. “Bydd codi tâl ar gyfer gwasanaethau ar wahân, yn hytrach na chynnwys y gwasanaethau hyn o fewn y taliadau rhent yn ei gwneud yn llawer cliriach faint yw cost y gwasanaethau, gan ddarparu mwy o atebolrwydd ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir.