Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Miloedd o blant Sir y Fflint yn mwynhau haf i’w gofio

Published: 01/10/2026

Mwynhaodd miloedd o blant a phobl ifanc ar hyd a lled Sir y Fflint haf yn llawn hwyl, cyfeillgarwch, dysgu a phrofiadau newydd yn sgil ystod eang o weithgareddau am ddim a ddarparwyd gan dimau Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint.

Trwy gydol gwyliau’r ysgol, bu plant yn cymryd rhan mewn rhaglenni wedi’u dylunio i’w cadw’n heini a’u diddanu.

Bu rhaglen Cynllun Chwarae’r Haf y Cyngor, wedi’i hwyluso gan Ddatblygu Chwarae Sir y Fflint a’i ariannu drwy Gynghorau Tref a Chymuned, yn boblogaidd iawn eto eleni.  Gyda mwy na 4,200 o blant wedi cofrestru, fe gofnodwyd cyfanswm o fwy na 15,500 yn bresennol ar draws 49 safle ar hyd a lled y Sir.

Fe fwynhaodd blant leoedd croesawgar a hygyrch lle gallent chwarae, archwilio a gwneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd diogel a hwyliog, wedi’u cefnogi gan Weithwyr Chwarae cymwys.  Darparwyd byrbrydau a dwr i gynnal egni’r plant, ac fe gynigiwyd prydau bwyd mewn safleoedd yn yr ardaloedd gyda lefelau uwch o amddifadedd, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.

Fe gyflwynodd y tîm Datblygu Chwarae sesiynau penodol ar gyfer teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, wedi’u cefnogi gan Travelling Ahead a Thîm Cynhwysiant Sir y Fflint, yn ogystal â sesiynau ar gyfer plant a theuluoedd sy’n siarad Saesneg fel ail iaith.

Yn y cyfamser, cynhaliodd 12 o ysgolion Sir y Fflint sesiynau ‘Bwyd a Hwyl’ wedi’u darparu gan dimau Ysgolion Bro mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Gwella, Arlwyo NEWydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cafwyd brecwast iach, byrbrydau a chinio poeth ynghyd ag ystod eang o weithgareddau oedd yn canolbwyntio ar faeth, gweithgareddau corfforol a lles.

Cafodd mwy na 5,500 cinio popeth ei weini yn ystod y rhaglen, tra bu plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau megis arbrofion gwyddoniaeth, crefftau, sgiliau syrcas a gemau chwaraeon, yn ogystal â mwynhau ymweliadau gan Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mynychodd Dîm Gwasanaeth Ieuenctid ac Atal Digartrefedd Sir y Fflint sesiynau Ffitrwydd, Bwyd a Darllen a gynhaliwyd gan Gwella i gyflwyno gweithgareddau creadigol, cefnogi lles a chyfleoedd dysgu anffurfiol.  Cafodd gweithgareddau yn Gymraeg eu cynnwys drwy’r rhaglen, gan helpu pobl ifanc i ymgysylltu â’r iaith a magu hyder yn defnyddio eu Cymraeg, beth bynnag fo’u lefel.

Roedd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys gwersyll eirafyrddio a sgïo deuddydd o hyd, a phrosiect natur Y Maes yn Saltney, lle bu gwirfoddolwyr ifanc yn creu gofod dysgu yn yr awyr agored a thyfu eu bwyd eu hunain.

Bu’r gwasanaeth hefyd yn cefnogi digwyddiadau cymunedol ac yn rhoi cefnogaeth un-i-un i bobl ifanc oedd ei angen trwy gydol y gwyliau.

Roedd tîm Sorted Sir y Fflint hefyd yn brysur yn cynnal cyfres o weithgareddau am ddim i bobl ifanc 10 oed a hyn, yn cynnwys heriau a gemau gan ddefnyddio teganau aer, gan ddenu dros 250 o gyfranogwyr.

Cefnogodd Clwb Cwtch 118 o blant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth o 76 o deuluoedd drwy raglen lawn o weithgareddau yn cynnwys nofio, bowlio, gymnasteg, celf a chrefftau a diwrnodau allan.  Roedd y clwb yn gyfle gwerthfawr i blant gynnal cyfeillgarwch ac i’r teuluoedd gysylltu â’i gilydd mewn amgylchedd cefnogol.

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae hi wedi bod yn wych gweld cymaint o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ym mhob rhan o Sir y Fflint dros yr haf.  Fe ddylai gwyliau’r haf fod yn amser i blant a phobl ifanc gael hwyl a chreu atgofion, a dyna’n union beth mae ein rhaglenni wedi helpu i’w ddarparu.

“Fe hoffwn ddiolch i’n staff a’n sefydliadau partner sydd wedi helpu i wneud y cyfleoedd yma’n bosibl, gan sicrhau y bu modd i blant fwynhau haf cyfoethog a hwyliog.”